Eleni mae dy breswylfa’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth Preswylfeydd Cynaliadwy Abertawe – sef cystadleuaeth cynaliadwyedd rhwng y preswylfeydd, a’r wythnos hon yw Wythnos Gweithredu ar Ynni, sy’n canolbwyntio ar arbed ynni.

Yn ystod yr wythnos, cymera ran mewn cystadleuaeth, dosbarthiadau meistr ac arolwg i nodi arbedion ynni, a chael cyfle i ennill taleb gwerth £10 neu £20!

Cystadleuaeth: Beth yw’r amrediad tymheredd delfrydol yn y cartref?

Dosbarth Meistr: Archwilio Ynni– darganfydda fwy am sut mae’r trydan rydyn ni’n ei ddefnyddio yn cael effaith ar ein planed, sut bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ddefnydd a chynhyrchu trydan, a’r hyn gallwn ni ei wneud i helpu.