[:en]We have been made aware of an incidence of unacceptable behaviour on the late-night bus service that the University is currently funding to ensure student safety.
bus stop road markingsOn Wednesday 10th November, as a result of anti-social and destructive behaviour on the bus, which included threatening behaviour towards the driver, the decision had to be made to withdraw the service early.
We would like to draw your attention to the attached Late Night Bus Code of Conduct for the 24 hour First Cymru service, which will return in JanuaryThe same rules apply to the use of the current, temporary service operated by Cymru Coaches. This behaviour was in clear breach of the code, and any further breaches could result in the cessation of the current service.
As well as highlighting the attached Late Night Bus Code of Conduct, we would like to also take this opportunity to remind you about covid safety guidance for use of bus services:

  • Always (unless exempt) wear a face mask on public transport
  • Do not eat or drink  on the bus
  • Respect the space of other passengers
  • Use hand sanitiser
  • Do not leave litter on the bus

Anyone found to be in breach of the attached code will be denied travel on the late-night service in the future.

We do appreciate that the majority of students use these services respectfully and hope that this was a one-off incident.
Thank you for your cooperation.[:cy]Tynnwyd ein sylw at ddigwyddiad o ymddygiad annerbyniol ar y gwasanaeth bws hwyr y nos y mae’r brifysgol yn ei ariannu ar hyn o bryd i sicrhau diogelwch myfyrwyr.
Ddydd Mercher 10 Tachwedd, o ganlyniad i ymddygiad gwrth-gymdeithasol a dinistriol ar y bws, a oedd yn cynnwys ymddygiad bygythiol tuag at y gyrrwr, gwnaethpwyd y penderfyniad i dynnu’r gwasanaeth yn ôl yn gynnar.
Hoffem dynnu eich sylw at Gôd Ymddygiad Gwasanaeth Bws Hwyr y Nos ar gyfer gwasanaeth 24 awr First Cymru sydd wedi’i atodi. Bydd y gwasanaeth hwn yn dychwelyd ym mis Ionawr. Mae’r un rheolau’n berthnasol ar gyfer defnyddio’r gwasanaeth dros dro presennol a weithredir gan Cymru Coaches. Roedd yr ymddygiad hwn yn achos clir o dorri’r côd a gallai torri rheolau pellach arwain at ddirwyn y gwasanaeth presennol i ben.
Yn ogystal â phwysleisio Côd Ymddygiad Gwasanaeth Bws Hwyr y Nosydd wedi’i atodi, hoffem hefyd achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa chi o ganllawiau diogelwch Covid ar gyfer defnyddwyr bysiau:

  • Dylech bob amser wisgo gorchudd wyneb ar gludiant cyhoeddus (oni bai eich bod wedi eich eithrio)
  • Peidiwch â bwyta nac yfed ar y bws
  • Parchwch le personol teithwyr eraill
  • Defnyddiwch hylif diheintio dwylo
  • Peidiwch â gadael sbwriel ar y bws

Ni chaniateir i unrhyw un sy’n torri rheolau’r cod atodedig deithio ar y gwasanaeth bws gyda’r hwyr yn y dyfodol.
Rydym yn gwerthfawrogi bod y mwyafrif o fyfyrwyr yn defnyddio’r gwasanaethau hyn mewn ffordd barchus a gobeithiwn mai digwyddiad untro oedd hwn.
Diolch am eich cydweithrediad.[:]