[:en]In line with University plans, the majority of our services will close from 4pm Thursday 23rd December until 8am Tuesday 4th January.
Campus Services staff will be present on each campus to support the library opening and campus cleanliness/environment from 10am-6pm on 29 and 30 December. Security Services will continue to operate on campus 24/7 during this period. Visit the webpages for contact details.
Estates Customer Services
Our Fulton House Reception Desk will be closed from Monday 20th December. You can still contact the team until 4pm on Thursday 23rd.
Catering Services
With decreasing footfall on campus and to support the launch of the new catering outlets and offers coming to you from Swansea Uni Food in the New Year, we will be running a reduced catering service from week commencing 13th December, with outlets closing for Christmas as follows:
Singleton Park Campus
- The Kitchen Click & Collect – Closed from Saturday 18th December
- Callaghans – Closed from Saturday 11th December
Please note Costcutter will be open until 2pm on 23rd December and reopens at 8am on Monday 3 January 2022.
Bay Campus
- The Kitchen Click & Collect (The Core) – Closed from Saturday 18th December
- Costa @ The College – Closed from Saturday 11th December
Please note Tesco will be open until 5pm on 23rd December and reopens at 8am on Saturday 27th December.
Full details of opening arrangements for catering outlets are available on the website here.
Sports Facilities
All Swansea Bay Sports Park opening times, including the Sport Swansea Gyms, can be found online here.
Singleton Gym will be open for half days only between the 29th and 31st December for essential maintenance.
Travel
- Campus to Campus Bus Services
The First Bus holiday timetable will be in place from Sunday 12th December. The new 2022 term time timetable will commence on 4th January 2022 and will include 24 hour services! You can find out more and download the timetables over on the First Bus website.
- Rail Services
You can get info about rail services online here.
For information about journey planning and disruptions, go to traveline.cymru.
Don’t forget University staff and students continue to get free use of Santander Cycles, so if you’re working/studying in Swansea over the festive season, you can get from campus to campus by bike. More info here.
If you have any queries or concerns, please get in touch with our Customer Services Team.
Wishing you all a Very Merry Christmas and a Happy New Year!
Estates & Facilities Management[:cy]Yn unol â chynlluniau’r Brifysgol, bydd y rhan fwyaf o’n gwasanaethau yn cau o 4pm ddydd Iau 23 Rhagfyr tan 8am ddydd Mawrth 4 Ionawr.
Bydd staff Gwasanaethau Campws yn bresennol ar bob campws i gynorthwyo gyda threfniadau agor y llyfrgell a glendid/amgylchedd y campws rhwng 10am a 6pm ar 29 a 30 Rhagfyr. Bydd Gwasanaethau Diogelwch yn parhau i weithredu 24/7 ar y campysau yn ystod y cyfnod hwn. Ewch i’r tudalennau gwe am fanylion cyswllt.
Gwasanaethau Cwsmeriaid Ystadau
Bydd Desg ein Derbynfa yn Nhŷ Fulton ar gau o ddydd Llun 20 Rhagfyr. Gallwch gysylltu â’r tîm hyd at 4pm ddydd Iau 23 Rhagfyr.
Gwasanaethau Arlwyo
Gyda nifer llai o bobl ar y campws ac i baratoi i lansio’r cyfleusterau a’r ddarpariaeth arlwyo newydd y bydd Bwyd Prifysgol Abertawe yn eu cynnig i chi yn y Flwyddyn Newydd, byddwn yn darparu gwasanaeth arlwyo cyfyngedig o’r wythnos sy’n dechrau 13 Rhagfyr. Bydd y cyfleusterau arlwyo yn cau fel a ganlyn:
Campws Parc Singleton
- Clicio a Chasglu Y Gegin – Ar gau o ddydd Sadwrn 18 Rhagfyr
- Callaghan’s – Ar gau o ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr
Sylwer y bydd Costcutter ar agor tan 2pm ar 23 Rhagfyr a bydd yn ailagor am 8am ddydd Llun 3 Ionawr 2022.
Campws y Bae
- Clicio a Chasglu Y Gegin (The Core) – Ar gau o ddydd Sadwrn 18 Rhagfyr
- Costa @ y Coleg – Ar gau o ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr
Sylwer y bydd Tesco ar agor tan 5pm ar 23 Rhagfyr a bydd yn ailagor am 8am ddydd Sadwrn 27 Rhagfyr.
Mae manylion llawn am drefniadau agor y cyfleusterau arlwyo ar gael ar y wefan yma.
Cyfleusterau Chwaraeon
Mae holl amserau agor Parc Chwaraeon Bae Abertawe, gan gynnwys Campfeydd Chwaraeon Abertawe, ar gael ar-lein yma.
Bydd Campfa Singleton ar agor am hanner diwrnod yn unig rhwng 29 a 31 Rhagfyr er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.
Teithio
- Gwasanaethau Bws o Gampws i Gampws
Bydd amserlen y gwyliau First Bus ar waith o ddydd Sul 12 Rhagfyr. Bydd amserlen y tymor newydd ar gyfer 2022 yn dechrau ar 4 Ionawr 2022, a bydd yn cynnwys gwasanaethau 24 awr! Gallwch weld rhagor o fanylion a lawrlwytho’r amserlenni ar wefan First Bus.
- Gwasanaethau Rheilffordd
Mae gwybodaeth am wasanaethau rheilffordd ar gael ar-lein yma.
I gael gwybodaeth am gynllunio teithiau ac ymyriadau, ewch i traveline.cymru
Cofiwch fod staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn gallu defnyddio Beiciau Santander am ddim o hyd. Felly, os byddwch yn gweithio neu’n astudio yn Abertawe dros dymor yr ŵyl, gallwch fynd ar gefn beic o gampws i gampws. Ceir rhagor o wybodaeth yma.
Os oes gennych ymholiadau neu bryderon, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Gan ddymuno Nadolig llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.
Ystadau a Rheoli Cyfleusterau[:]