[:en]
UPDATE – First Cymru Strike Action Cancelled
On Monday 26th September 2022, First Cymru* drivers are planning to take industrial action over pay and conditions, which will severely disrupt bus services throughout the region, including campus to campus services. Further industrial action on future dates is possible.
During strike days, all First Cymru bus services will be cancelled, except for a limited number of skeleton services, including the number 8 service from Hendrefoelan Student Village, which will operate with a limited timetable between the hours of 7am and 7pm.
Should the situation change, we will update you via your student email. Please keep an eye out for further communication.
*Please note that First Cymru is a private bus service operator delivering a commercial service. It is not part of Swansea University.
Strike day teaching and learning
During strike days, in-person teaching will continue as normal on our campuses, however, to ensure no student is disadvantaged, provision will be put in place to support those unable to get to campus – including virtual sessions and online content on Canvas. Specific arrangements will be communicated via your department/Faculty.
Getting to and from campus on strike days
If you live close enough to be able to walk or cycle to campus, we strongly encourage you to do so on strike days – don’t forget you can log this activity and earn points through SWell, where you can also organise car sharing and find cycling or walking buddies. Santander Cycles Membership is also free again this year for Swansea University students. Visit the webpage here.
To support those unable to choose active travel, we are putting the following arrangements in place:
Temporary Coaching Services
We have been working with Cymru Coaches and South Wales Transport to provide free of charge, temporary coaching services for students and staff during all announced strike days. You will need to show your student ID card to access these services.
Please note these services do not mirror the usual First Cymru Campus to Campus services, with limited stops being made available along the routes.
- Park & Ride Shuttle Service linking Fabian Way P&R and Bay Campus (South Wales Transport)
- Number 8, Daytime service (Cymru Coaches)
- Number 10 Daytime service (South Wales Transport)
- Number 9 Campus to Campus express (daytime) (Cymru Coaches)
- Late Night Hourly Service (9pm – 4am) (Operated by Cymru Coaches)
You can view full details of all these services, including route/bus stop graphics are available on our travel webpages.[:cy]
Diweddaru – Canslo streic First Cymru
Ddydd Llun 26 Medi 2022, mae gyrwyr First Cymru* yn bwriadu cymryd camau diwydiannol dros dâl ac amodau, a fydd yn amharu’n ddifrifol ar wasanaethau bws ledled y rhanbarth, gan gynnwys gwasanaethau o gampws i gampws. Mae’n bosib y bydd camau diwydiannol ar ddyddiadau yn y dyfodol.
Yn ystod diwrnodau streiciau, bydd gwasanaethau bysiau First Cymru yn cael eu canslo, ac eithrio nifer cyfyngedig o wasanaethau, gan gynnwys y gwasanaeth rhif 8 o Bentref Myfyrwyr Hendrefoelan, a fydd yn gweithredu amserlen gyfyngedig rhwng 7am a 7pm.
Os bydd y sefyllfa’n newid, byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi drwy eich e-bost myfyriwr. A wnewch chi gadw golwg am ragor o wybodaeth.
*Sylwer bod First Cymru yn weithredwr gwasanaethau bysiau preifat sy’n darparu gwasanaeth masnachol. Nid yw’n rhan o Brifysgol Abertawe.
Dysgu ac addysgu ar ddiwrnodau streiciau
Yn ystod diwrnodau streiciau, bydd addysgu wyneb yn wyneb ar ein campysau’n parhau fel arfer, ond er mwyn sicrhau na fydd unrhyw fyfyrwyr dan anfantais, rhoddir cymorth i’r rhai na allant gyrraedd y campws – gan gynnwys sesiynau rhithwir a chynnwys ar-lein ar Canvas. Bydd trefniadau penodol yn cael eu cyfleu i chi’n uniongyrchol drwy eich adran/Cyfadran.
Mynd i’r campws ac oddi yno ar ddiwrnodau streiciau
Os ydych yn byw’n ddigon agos i gerdded neu feicio i’r campws, rydym yn eich annog yn gryf i wneud hynny ar ddiwrnodau streiciau – cofiwch y gallwch gofnodi’r gweithgarwch hwn ac ennill pwyntiau drwy SWell, lle gallwch hefyd drefnu i rannu car a dod o hyd i gyfeillion beicio neu gerdded. Mae Aelodaeth Beiciau Santander hefyd ar gael am ddim eto eleni ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Ewch i’r dudalen we yma.
Er mwyn cefnogi’r rhai na allant ddewis teithio llesol, rydym yn rhoi’r trefniadau canlynol ar waith:
Gwasanaethau Coetsys Dros Dro
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Cymru Coaches a South Wales Transport i ddarparu gwasanaeth coetsys dros dro am ddim ar gyfer myfyrwyr a staff yn ystod pob diwrnod streic a gyhoeddir. Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn adnabod myfyriwr i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.
Sylwer nad yw’r gwasanaethau hyn yn efelychu gwasanaethau arferol First Cymru o gampws i gampws, gan y bydd yn aros mewn nifer cyfyngedig o leoedd ar hyd y llwybrau hyn.
- Gwasanaethau Gwennol sy’n cysylltu Safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian â Champws y Bae (South Wales Transport)
- Gwasanaeth rhif 8 yn ystod y dydd (Cymru Coaches)
- Gwasanaeth rhif 10 yn ystod y dydd (South Wales Transport)
- Gwasanaeth bysiau cyflym rhif 9 (yn ystod y dydd) (Cymru Coaches)
- Gwasanaeth bob awr gyda’r nos (9pm – 4am) (wedi’i weithredu gan Cymru Coaches)
Gallwch weld manylion llawn yr holl wasanaethau hyn, gan gynnwys graffigau llwybrau/arosfannau bysiau ar ein tudalennau gwe teithio.[:]