[:en]Male student walkingPlease find details below about arrangements on campus during the summer vacation period.
Estates Helpdesk & Customer Services Teams
The Estates Helpdesk, and the Customer Service desks within Fulton House Reception and on the first floor of the Nanhyfer Building at the Bay will be open from 08:30 until 16:30.
Catering Services
We hope you’re enjoying the range of eating options now on campus, including click & collect, high street brands such as Greggs and Subway, and the fantastic Swansea Social Hideaway at Bay – we can’t wait to introduce you to a similar concept at the Refectory on Singleton this Autumn!
With reduced footfall on campus over the summer months, some of our outlets will close or have reduced opening hours – visit our catering webpages to stay up to date.
Don’t forget you can stay up to date by following Swansea Uni Food on Twitter or Instagram, and make sure you’ve downloaded the Uni Food Hub app.
Students’ Union Run Outlets
The opening times for campus outlets run by the Students’ Union can be found on their website.
Library Services

  • The Singleton Park Library will close at 6pm on Wednesday, 16th August, reopening at 6pm on Friday 18th August.
  • You’ll find up to date information on opening times of all our libraries on our webpages.
  • You will be able to consult Subject Librarians via online chat or in one-to-one appointments. Full details are in Libguides.

 Sports Facilities
You can find up to date opening times for the University sports facilities over on the Swansea Bay Sports Park website.
Taliesin Arts Centre
The Taliesin Arts Centre will continue to offer a full programme throughout the summer period, including cinema screenings, live music and theatre events and workshops. Free Creative Writing Sessions, Family fun days and special outdoor events are also taking place, see the website for full Summer listings.
Taliesin Create 
Due to the Fulton House refurbishment, catering for external groups will be moving to Taliesin Create this summer. As a result, Taliesin Create will be closed to students during the following periods:

  • July 3 – July 17
  • July 24 – August 12
  • August 17 – Sept 8

To book the Mall Room and Studio (9am – 10pm Mon-Fri, and 9am – 5pm Sat and Sun) between those periods, please see LibCal for availability and to make bookings: https://swansea-uk.libcal.com/reserve/TaliesinCreate  
Bus Travel
The non-term timetables are now available. Changes have been made to existing services and there’s an introduction to an additional service during this time.
The main service serving the University during the summer vacation period will be the Number 90 Service, which will run from Christina Street (City Centre), Strand, to inside the Bay Campus.
Don’t forget to download the First App and follow @FirstCymru on Twitter for service updates and announcements. Adventure Travel also run services to and from our campuses. You can find out more here.
Sustainability
Don’t forget to keep logging your sustainable and wellbeing actions over the summer through SWell, and if you’re taking time away from campus, make sure you switch off as much equipment as possible when you leave.
Get in touch with the team if you have any questions about staying sustainable on or off campus, and take a look on Eventbrite for details of any beach cleans or conservation volunteering opportunities going on.
 
 
 
 
 
 
 
 [:cy]Male student walkingIsod cewch fanylion am drefniadau ar y campws yn ystod gwyliau’r haf.
Desg Gymorth Ystadau a Thimau Gwasanaethau Cwsmeriaid
Bydd Desg Gymorth Ystadau a’r desgiau Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Nerbynfa Tŷ Fulton ac ar y llawr cyntaf yn Adeilad Nanhyfer ar Gampws y Bae ar agor rhwng 8:30 a 16:30.
Gwasanaethau Arlwyo
Rydym ni’n gobeithio eich bod chi’n mwynhau amrywiaeth o opsiynau bwyta ar y campws, gan gynnwys clicio a chasglu, brandiau’r stryd fawr fel Greggs a Subway, a Chuddfan Gymdeithasol Abertawe wych ar gampws y Bae. Rydym ni’n ysu am eich cyflwyno at gysyniad tebyg yn y Ffreutur ar Gampws Singleton yr hydref hwn!
Gyda llai o bobl ar y campws dros fisoedd yr haf, bydd rhai o’n lleoliadau bwyta’n cau neu bydd oriau agor mwy cyfyngedig – ewch i’n gwefannau arlwyo i gael y diweddaraf.
Cofiwch fod yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael drwy ddilyn Bwyd Prifysgol Abertawe ar Twitter neu Instagram, a sicrhau eich bod chi wedi lawrlwytho ap Uni Food Hub.
Siopau Undeb y Myfyrwyr
Bydd y siopau ar y campws a reolir gan Undeb y Myfyrwyr ar agor fel a ganlyn yn ystod gwyliau’r
Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe

  • Bydd Llyfrgell Parc Singleton yn cau am 6yh ddydd Mercher, 16 Awst, ac yn ailagor am 6yh ddydd Gwener 18 Awst.
  • Cewch hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am oriau agor ein holl lyfrgelloedd ar ein tudalennau gwe.
  • Bydd modd i chi gysylltu â Llyfrgellwyr Pynciol trwy sgwrsio ar-lein neu gellir cael apwyntiadau unigol. Ceir manylion llawn yng Nghanllawiau’r Llyfrgell.

Cyfleusterau Chwaraeon
Mae oriau agor diweddaraf cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol ar gael ar wefan Parc Chwaraeon Bae Abertawe
Canolfan y Celfyddydau Taliesin
Bydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn parhau i gynnig rhaglen lawn trwy gydol yr haf, gan gynnwys dangos ffilmiau, cerddoriaeth fyw a digwyddiadau theatr a gweithdai. Cynhelir sesiynau ysgrifennu creadigol am ddim, diwrnodau hwyl i’r teulu a digwyddiadau arbennig yn yr awyr agored hefyd – gweler y wefan am restr lawn o ddigwyddiadau’r Haf.    
 Creu Taliesin 
Oherwydd gwaith adnewyddu ar Dŷ Fulton, bydd arlwyo ar gyfer grwpiau allanol yn symud i Creu Taliesin yr haf hwn. O ganlyniad, bydd Creu Taliesin ar gau i fyfyrwyr yn ystod y cyfnodau canlynol:

  • 3 – 17 Gorffennaf
  • 24 Gorffennaf  – 12 Awst
  • 17 Awst – 8 Medi 

I archebu Ystafell y Rhodfa a’r Stiwdio (9am – 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 9am – 5pm ddydd Sadwrn a dydd Sul) rhwng y cyfnodau hynny, gweler LibCal ar gyfer argaeledd ac i archebu:  https://swansea-uk.libcal.com/booking/TaliesinCreate  
Teithio ar y Bws
Mae’r amserlenni y tu allan i’r tymor ar gael nawr. Mae newidiadau wedi’u gwneud i’r gwasanaethau presennol ac mae gwasanaeth ychwanegol yn cael ei gyflwyno yn ystod y cyfnod hwn.
 Y prif wasanaeth ar gyfer y Brifysgol yn ystod gwyliau’r haf fydd y gwasanaeth rhif 90, a fydd yn teithio o’r tu allan i Stryd Christina (Canol y  Ddinas), drwy’r Strand a’r tu mewn i Gampws y Bae.
Cofiwch lawrlwytho ap First Cymru a dilynwch @FirstCymru ar Twitter ar gyfer diweddariadau a chyhoeddiadau am wasanaethau.
Hefyd, bydd Adventure Travel yn gweithredu gwasanaethau i’n campysau ac oddi yno. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Cynaliadwyedd
Cofiwch barhau i gofnodi eich gweithredoedd cynaliadwy a lles drwy gydol yr haf trwy SWell ac os byddwch chi’n treulio amser i ffwrdd o’r campws, sicrhewch eich bod chi’n diffodd cymaint o gyfarpar â phosibl cyn i chi adael.
Cysylltwch â’r tîm os oes gennych chi gwestiynau ynghylch bod yn gynaliadwy ar y campws neu oddi ar y campws ac ewch i Eventbrite am fanylion am ymgyrchoedd glanhau’r traethau neu gyfleoedd gwirfoddoli cadwraeth sydd ar gael.
 
 [:]