[:en]Interior of a public busIn line with our Sustainability and Climate Emergency Strategy, we encourage University students and staff to choose active forms of travel.

We advise you not to bring your car to university – parking is limited, and between the hours of 8am and 4pm, Monday to Friday, parking on campus is for annual and pay to park permit holders only. See here for parking and travel information during the arrivals period.

Visit our sustainable travel stand during welcome week, where you can find out about our upcoming events, get your bike marked and pick up free locks and lights to keep you and your bike safe!

If walking or cycling isn’t possible, we recommend the bus. We’ve made some positive changes to our bus services over the summer months. The new First Cymru Uni Bws network, designed around the needs of Swansea’s students, now covers all student accommodation areas with day ticket bus prices also remaining the same as the 2022/23 term.

The service numbers you need to know for 2023/24 are:

  • Service 90 – Linking Bay Campus to Swansea Bus Station, Swansea Train Station, and Student Roost.
  • Service 91 – Linking Singleton Campus to Sketty & Uplands, Swansea Bus Station, and Bay Campus (this 24 hour service now covers Uplands, Sketty, Brynmill and Sainsbury’s near Wind Street)
  • Service 92 – Linking Singleton Campus to Coppergate, Parc Tawe and Bay Campus. This is your quickest Campus to Campus link!
  • Service 93 – Linking True Student Accommodation, Fabian Way P&R and Bay Campus.
  • Service 94 – Linking True Student Accommodation, Student Roost and Singleton Campus.

We’ve also listened to your feedback and extended the 24 hours bus services, which will now run from Monday to Saturday!

Don’t forget, if you’re under 22 you qualify for a MyTravelPass, meaning you can save a whopping 30% on bus travel in Wales! It’s free to apply for on the Welsh Government’s website here.

In the meantime, you can explore all your travel options over on our sustainable travel webpages.[:cy]Interior of a public busYn unol â’n Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd, rydym yn annog myfyrwyr a staff y Brifysgol i ddewis ffyrdd llesol o deithio.

Rydym yn dy gynghori i beidio â dod â dy gar i’r brifysgol – ceir nifer gyfyngedig o leoedd parcio, ac mae’r lleoedd parcio ar y campws wedi’u neilltuo ar gyfer deiliaid hawlenni blynyddol a thalu i barcio yn unig rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gweler yma am wybodaeth parcio a theithio ar gyfer y cyfnod cyrraedd.

Cer i’n stondin teithio cynaliadwy yn ystod yr Wythnos Groeso, lle gelli di gael gwybod am ein digwyddiadau sydd ar ddod, cael dy feic wedi’i farcio a chael cloeon a goleuadau am ddim i dy gadw di a dy feic yn ddiogel!

Os nad yw cerdded neu feicio yn bosibl, rydym yn argymell y bws. Rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau cadarnhaol i’n gwasanaethau bws dros fisoedd yr haf. Mae rhwydwaith Uni Bws First Cymru, a ddyluniwyd i ddiwallu anghenion myfyrwyr Abertawe, bellach yn cynnwys yr holl ardaloedd lle ceir llety myfyrwyr, ac mae prisiau’r tocyn diwrnod wedi aros yr un fath ag yn ystod tymor 2022/23. Dyma rifau’r gwasanaethau bydd angen i chi eu gwybod am 2023/24:

  • Gwasanaeth 90 – yn cysylltu Campws y Bae â Gorsaf Fysus Abertawe, Gorsaf Drenau Abertawe a Student Roost.
  • Gwasanaeth 91 – yn cysylltu Campws Singleton â Sgeti ac Uplands, Gorsaf Fysus Abertawe a Champws y Bae (mae’r gwasanaeth 24 awr hwn bellach yn cynnwys Uplands, Sgeti, Brynmill a Sainsbury’s ger Stryd y Gwynt.
  • Gwasanaeth 92 – yn cysylltu Campws Singleton â Coppergate, Parc Tawe a Champws y Bae. Dyma eich ffordd gyflymaf o deithio o Gampws i Gampws!
  • Gwasanaeth 93 – yn cysylltu llety True Student, maes parcio a theithio Ffordd Fabian a Champws y Bae.
  • Gwasanaeth 94 – yn cysylltu llety True Student, Student Roost a Champws Singleton.

Rydyn ni hefyd wedi gwrando ar adborth ein myfyrwyr ac estyn y gwasanaethau bws 24 awr, a fydd bellach yn weithredol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Cofiwch, os ydych chi’n iau na 22 oed mae gennych hawl i gael fyngherdynteithio, sy’n golygu y gallwch chi arbed 30% ar deithio ar y bws yng Nghymru – bargen! Gallwch chi gyflwyno cais am ddim ar wefan Llywodraeth Cymru yma.

Yn y cyfamser, gelli di archwilio dy holl opsiynau teithio ar ein tudalennau gwe teithio cynaliadwy.[:]