[:en]I hope you’ve had a great summer and are looking forward to welcoming you back to campus!
There are a few important travel updates we’d like to make you aware of:
New Campus to Campus bus timetables are now live on the travel webpages. Please note some route changes this year, including:
- The brand new 8A shuttle service serving Hendrefoelan Student village to Singleton Campus, which links to the 8,9, and 10 services for Bay Campus.
- The number 9 from Singleton Campus will now stop off at the Swansea Quadrant Bus Station (Bay D) and the Fabian Way Park and Ride on its way to Bay Campus.
- The new 10a service, a shuttle service between the City Centre (Kingsway) and Bay Campus will provide an additional service during peak times for students in city centre accommodation. This will lead to an increase in service frequency up to every 7 minutes.
Further details, including timetables, can be found on First Cymru’s website.
Our Top 10 Travel Tips:
- Ditch your car. There is no parking on campus for students between the hours of 8am and 4pm Monday to Friday* Parking across the city is at a premium, so leave your car at home and choose active travel or public transport instead.
- Try walking or cycling to campus at least once or twice a week to save money, get active and reduce your carbon footprint.
- Claim another year of free Santander Cycles membership to help you save money on living costs and get you travelling more sustainably – find out more
- Make sure you’re cycling safely and keeping your bike secure. We’ll send you more details soon about our ‘Switch On’ cycling roadshows on 11th (Bay) and 18th October (Singleton), where you can get cycling advice and guidance, free locks and lights, and get your bike marked.
- Take a look at these bike/accessory discounts, to make cycling around town more affordable.
- Get yourself a My Travel pass, which gives you 1/3 off bus travel in Wales – more info online here.
- Think about investing in a bus pass, which can be used on all First Cymru, not just the Campus to Campus services – info about ticket options and prices is online here.
- Make sure you get the FirstBus App so you can check capacities, plan journeys and get your tickets, all in one place.
- Follow @firstcymru on Twitter, to stay abreast of local travel updates.
- Check out My Uni Journey’s handy online travel tool, to help you plan your journey from start to finish.
*There are some student parking permits available to those meeting eligibility criteria. Please note, we’ll be introducing new Automatic Numberplate Recognition Systems (ANPR) on campus in the New Year. This means if you don’t have a valid permit allowing you to park on campus, your number plate will not be recognized, and you will receive an automatic Parking Charge Notice. We’ll keep you posted on this.
Our travel webpages aim to be a one stop shop for all your travel needs. Get in touch with me directly j.cornelius@swansea.ac.uk if you have any feedback on the pages/if there’s any info missing that you’d like us to share with you.[:cy]Rydym ni’n gobeithio eich bod chi wedi cael haf gwych ac rydym ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi’n ôl i’r campws!
Mae ychydig o ddiweddariadau teithio pwysig hoffem ni sicrhau eich bod chi’n ymwybodol ohonynt:
Mae amserlenni bws Campws i Gampws bellach yn fyw ar y tudalennau gwe teithio. Sylwer bod ambell newid i lwybrau eleni, gan gynnwys:
- Mae gwasanaeth gwennol 8A newydd sbon rhwng Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan a Champws Singleton, sy’n cysylltu â gwasanaethau 8, 9 and 10 i Gampws y Bae.
- O nawr ymlaen, bydd y rhif 9 o Gampws Singleton yn mynd i Orsaf Fysiau’r Cwadrant yn Abertawe (Bae D) ac i Safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian ar ei ffordd i Gampws y Bae.
- Bydd gwasanaeth gwennol newydd sbon, sef gwasanaeth 10a, yn teithio rhwng Canol y Ddinas (Ffordd y Brenin) a Champws y Bae, gan ddarparu gwasanaeth ychwanegol yn ystod oriau prysur i fyfyrwyr sy’n byw mewn llety yng nghanol y ddinas. Bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn amlder gwasanaeth hyd at bob 7 munud.
Mae manylion pellach, gan gynnwys amserlenni, ar wefan First Cymru.
10 Awgrym Teithio Euraidd:
- Gadewch eich car. Does dim lleoedd parcio ar y campws i fyfyrwyr rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener* Nid oes llawer o leoedd parcio ar draws y ddinas, felly gadewch eich car gartref a dewiswch deithio llesol neu gludiant cyhoeddus yn lle.
- Rhowch gynnig ar feicio i’r campws o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos i arbed arian, cael ymarfer corff a lleihau eich ôl troed carbon.Teithio Mewn Car – Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)
- Rydym ni’n cynnig blwyddyn arall o aelodaeth Beiciau Santander i’ch helpu chi i arbed arian ar gostau byw a chynnig ffordd o deithio sy’n fwy cynaliadwy – darllenwch fwy yma.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n beicio’n ddiogel ac yn cadw eich beic yn ddiogel. Byddwn yn anfon rhagor o fanylion atoch chi’n fuan am ein sioeau teithiol beicio ‘Troi Ymlaen‘ ar 11 Hydref (ar y Bae) ac 18 Hydref (Singleton), lle gallwch chi gael cyngor ac arweiniad beicio, cloeon a goleuadau am ddim a chael marc ar eich beic.
- Rhowch gipolwg ar y nwyddau/gostyngiadau beicio hyn, i wneud beicio o amgylch y ddinas yn fwy fforddiadwy.
- Mynnwch gerdyn Fy Ngherdyn Teithio, sy’n rhoi gostyngiad gwerth 1/3 i chi ar deithio ar fysus yng Nghymru – rhagor o wybodaeth ar-lein yma.
- Meddyliwch am fuddsoddi mewn tocyn bws, y gallwch chi ei ddefnyddio ar holl fysus First Cymru, nid yn unig y gwasanaethau Campws i Gampws – mae gwybodaeth am opsiynau a phrisoedd tocynnau ar gael ar-lein yma.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n lawrlwytho Ap FirstBus fel y gallwch chi wirio a oes lle, cynllunio teithiau a phrynu eich tocynnau, oll yn yr un man.
- Dilynwch @firstcymru ar Twitter, i ddilyn y diweddariadau teithio lleol diweddaraf.
- Rhowch gipolwg ar offeryn teithio ar-lein hwylus Fy Nhaith MyUni, i’ch helpu i gynllunio eich taith o’r dechrau i’r diwedd.
*Mae rhai hawlenni parcio i fyfyrwyr ar gael i’r myfyrwyr hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Sylwer y byddwn ni’n cyflwyno Systemau Adnabod Rhif Cerbydau Awtomatig (ANPR) ar y campws yn y Flwyddyn Newydd. Golyga hyn os nad oes gennych chi hawlen ddilys sy’n caniatáu i chi barcio ar y campws, ni chaiff eich rhif cerbyd ei adnabod a byddwch yn derbyn Hysbysiad o Dâl Parcio. Bydd y diweddaraf ar gael i chi yma.
Nod ein tudalennau gwe teithio yw bod yn siop un stop ar gyfer eich holl anghenion teithio. Cysylltwch â mi’n uniongyrchol drwy e-bostio j.cornelius@abertawe.ac.uk os oes gennych chi unrhyw adborth ar y tudalennau/a oes unrhyw wybodaeth ar goll hoffech chi ei rhannu â ni.[:]