[:en]Shoppers heading into Swansea city centre this Christmas can travel on buses for free every Saturday and Sunday during November and December.
Swansea Council has confirmed the ‘Free-Ride Swansea’ public transport offer will be back up and running for the festive period and follows a successful free travel initiative which ran throughout the summer holidays.
Starting this Saturday (November 19), the latest free offer will run every Saturday & Sunday in the run up to Christmas Day and will continue for a further five days from 27 – 31 December.
The Council is urging the travelling public to make use of the free bus offer in an effort to lessen the financial hardships being felt by families during the ongoing economic climate.
Unfortunately, the Bay Campus sits within the boundaries for Neath and Port Talbot. The ‘Free-Ride Swansea’ initiative does not extend this far. You will be charged for the whole fare travelling to and from the Bay Campus. More information is available via the link below.
Before travelling, please check this link for further information regarding your specific route.[:cy]Gall siopwyr sy’n mynd i ganol dinas Abertawe y Nadolig hwn deithio ar fysus am ddim bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr.
Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd y cynnig cludiant cyhoeddus Bysus am Ddim Abertawe yn dychwelyd ar gyfer y Nadolig ac mae’n dilyn menter teithio am ddim lwyddiannus a gynhaliwyd drwy gydol gwyliau’r haf.
Gan ddechrau dydd Sadwrn, (19 Tachwedd), bydd y cynnig am ddim diweddaraf ar gael bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn y cyfnod cyn Dydd Nadolig a bydd yn parhau am 5 niwrnod yn ychwanegol rhwng 27 a 31 Rhagfyr.
Mae’r cyngor yn annog y cyhoedd i ddefnyddio’r cynnig bysus am ddim mewn ymdrech i leihau’r caledi ariannol y mae teuluoedd yn ei wynebu yn ystod yr hinsawdd economaidd barhaus.
Yn anffodus, mae Campws y Bae o fewn ffiniau Castell-nedd a Phort Talbot. Nid yw’r cynllun ‘Bysus am Ddim Abertawe’ yn ymestyn mor bell â hyn. Bydd yn rhaid i ti dalu pris llawn y siwrnai wrth deithio i Gampws y Bae ac oddi yno. Ceir rhagor o wybodaeth yn y ddolen isod.
Cyn teithio, a wnei di ddilyn y ddolen hon am ragor o wybodaeth am dy siwrnai penodol.
[:]