[:en]
Easter Vacation Hours
Bay and Singleton Park Libraries will remain open 24/7 throughout the vacation.
The MyUni Library Information Desks will be staffed during the vacation as usual except for the period 6th – 11th April. On these dates the desk will be open 10AM-6PM.
Your Subject Librarians and the Document Supply Service will also be available during the vacation if you need any support in your studies, but please note that they will be unavailable from 6th – 11th April inclusive.
Please see our opening hours for full details of all our libraries and services over the vacation, including the Richard Burton Archives, South Wales Miners’ Library, Saint David’s Park and Banwen.
Easter Vacation Loans
If you have books or journals out on loan over the holiday period, they will continue to auto-renew.
Laptops are not renewable. Please return any outstanding laptop loans promptly. These will not auto-renew, and fines are £10.00 per day.
We will not recall books or journals during the vacation this year – if your items have not been recalled by Saturday 25th of March then they will renew over the vacation.
Even if your item is requested during the vacation, the earliest it could be due back is Tuesday 25th of April.
When considering requesting items during this period, please check whether an e-copy is available – it is likely that this will be a much quicker means of accessing the resource during the vacation.
If you have any questions or concerns, please get in touch with the My Uni Library Team.
What’s has happened in the Library since our last term update?
We had a great response to our Christmas wishes campaign – thank you! Lots of you hung your Library wishes on the Christmas trees at Bay and Singleton Park Libraries. In addition to all the good wishes and messages of thanks, which were lovely to receive, we had requests for:
- more group spaces and more comfortable spaces
- water fountains
- blankets
- plants
- beds/nap areas
- more loanable laptops
- famous fast food/pizza restaurants
Already we’ve taken steps to make drinking water facilities clearer and fixed outstanding issues with our group study pods at Singleton, whilst also making some more collaborative spaces available.
Moreover, many of your ideas for our study spaces and increasing the greenery and plant-life around the libraries are being included and prioritised in ongoing refurbishment works. On top of this we are continually working on our combined concerns on heating and toilet facilities with our partners across the University. Unfortunately, a few suggestions are beyond our means or just aren’t practical as services in a public building, particularly considering the number of people using our Libraries, but we appreciated the creative suggestions nonetheless. You never know what might be possible!
After Easter, look out for your opportunity to provide further feedback and write to the library as if it were a person! What do you wish you could have had from the library this year, or what stands out about the library looking back? Of course, if you’d like to do so already then please go ahead and email the MyUni Library team now!
Finally, Library staff would like to wish you all a happy holiday. We hope you have an opportunity to relax and enjoy your break.[:cy]
Oriau agor dros y Wwyliau Pasg
Bydd Llyfrgell y Bae a Llyfrgell Parc Singleton yn parhau ar agor 24/7 drwy gydol y gwyliau.
Bydd staff ar gael ar Ddesgiau Gwybodaeth Llyfrgell MyUni yn ystod y gwyliau fel arfer heblaw am y cyfnod 6 – 11 Ebrill. Ar y dyddiadau hyn bydd y ddesg ar agor 10am-6pm.
Bydd eich Llyfrgellwyr Pwnc a’r Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau hefyd ar gael yn ystod y gwyliau os bydd angen cymorth arnoch wrth astudio, ond nodwch na fyddant ar gael rhwng y dyddiadau sy’n cynnwys 6 – 11 Ebrill.
Gweler ein tudalennau gwe oriau agor i gael manylion llawn ein holl lyfrgelloedd a gwasanaethau dros y gwyliau, gan gynnwys Archifau Richard Burton, Llyfrgell Glowyr De Cymru, Parc Dewi Sant a Banwen.
Benthyciadau dros Wyliau’r Pasg
Os oes gennych lyfrau neu gyfnodolion allan ar fenthyg dros gyfnod y gwyliau, byddant yn parhau i gael eu hadnewyddu’n awtomatig.
Nid oes modd adnewyddu benthyciadau gliniaduron . A wnewch chi ddychwelyd unrhyw liniaduron sydd wedi’u benthyca’n brydlon. Ni fydd y rhain yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig ac mae dirwy o £10.00 y dydd.
Ni fyddwn yn galw llyfrau na chyfnodolion yn ôl yn ystod y gwyliau eleni – os nad yw eich eitemau wedi cael eu galw’n ôl erbyn dydd Sadwrn 25 Mawrth yna byddant yn cael eu hadnewyddu dros y gwyliau.
Hyd yn oed os gofynnir am eich eitem yn ystod y gwyliau, y cynharaf y byddai angen ei ddychwelyd yw dydd Mawrth 25 Ebrill.
Wrth ystyried gwneud cais am eitemau yn ystod y cyfnod hwn, gwiriwch os oes e-gopi ar gael – mae’n debygol bydd hwn yn fodd llawer mwy cyflym o gael gafael ar yr adnodd yn ystod y gwyliau.
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â’r Tîm Llyfrgell MyUni.
Unwaith eto, cawsom ymateb gwych i’n hymgyrch Dymuniadau’r Nadolig – diolch! Gwnaeth llawer ohonoch osod neges ar y goeden Nadolig yn Llyfrgell y Bae ac yn Llyfrgell Parc Singleton. Yn ogystal â’r holl ddymuniadau da a’r negeseuon o ddiolch, a oedd yn hyfryd eu derbyn, cawsom geisiadau am…
- fwy o leoedd ar gyfer grwpiau a mannau mwy cyfforddus
- ffynhonnau dŵr
- blancedi
- planhigion
- gwelyau neu fannau lle gallwch gael cyntun
- mwy o liniaduron benthyg
- bwytai bwyd cyflym/pizza enwog
…a llawer mwy! Rydym eisoes wedi cymryd camau i’w gwneud hi’n fwy amlwg ble mae’r cyfleusterau dŵr yfed ac rydym wedi datrys problemau oedd gennym gyda’n codennau astudio mewn grŵp yn Singleton, yn ogystal â chynnig mwy o fannau ar gyfer cydweithio.
Ar ben hynny, mae llawer o’ch syniadau ar gyfer ein mannau astudio, ac o ran cael mwy o wyrddni a phlanhigion o amgylch y llyfrgelloedd, yn cael eu cynnwys a’u blaenoriaethu mewn gwaith adnewyddu sy’n mynd rhagddo. Ar ben hyn, rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid ar draws y Brifysgol ar y pryderon a rennir ynghylch cyfleusterau gwresogi a thoiledau. Yn anffodus, mae rhai awgrymiadau y tu hwnt i’n gallu ni, neu ni fyddent yn wasanaethau ymarferol mewn adeilad cyhoeddus, yn enwedig o ystyried nifer y bobl sy’n defnyddio ein Llyfrgelloedd, ond roedden ni’n gwerthfawrogi’r awgrymiadau creadigol er hynny… dydych chi byth yn gwybod beth allai fod yn bosib!
Ar ôl y Pasg, cadwch lygad allan am gyfle i roi rhagor o adborth ac ysgrifennu at y llyfrgell fel petai’n berson! Beth byddech chi wedi hoffi ei gael yn y llyfrgell eleni, neu beth sy’n sefyll allan am y llyfrgell wrth i chi edrych yn ôl? Wrth gwrs, os hoffech wneud hynny, mae croeso i chi fwrw ymlaen ac e-bostio tîm Llyfrgell MyUni nawr!
Yn olaf, hoffai staff y llyfrgelloedd ddymuno gwyliau hapus i bawb. Gobeithiwn y cewch chi gyfle i ymlacio a mwynhau’ch gwyliau.[:]