[:en]Swansea University will be making strides for mental health this June, being the proud sponsor of the Swansea Half Marathon. Twice named the UK’s best half marathon, the 2023 race will be held on Sunday 11th June.
Due to the route and nature of the event, there will be a series of road closures in place throughout the City Centre and the surrounding area of Singleton Park Campus. Some of these closures and restrictions will commence on Saturday 10th June.
More information on all road closures, restrictions and timings are available here.
During the race, runners will enter Singleton Campus via the main entrance, therefore all campus roads leading to Fulton Drive will be closed during that period.
Due to the Half Marathon route entering onto campus, there will be emergency vehicle access only via the main entrance, with the main entrance and roundabout closed for the duration of the event and in line with the Council closures.
Access/egress, if required, will be via Singleton Hospital. Please be aware for the duration of the road closures there will also be no public transport to and from campus.
We encourage all students to plan any journeys well in advance of this weekend and allow plenty of time for your journey.
For up-to-date information about parking on and around campus, as well as alternative travel options, please visit our travel webpages.
There are a number of students, staff and alumni who are running on behalf of the University. As a registered charity, the runners representing the University are fundraising for current University research in children and young people’s mental health, current student support and a more resilient NHS workforce for our nursing students.
Why not make the most of the weekend and support your fellow students, staff and alumni who are taking on the challenge! Keep an eye out for the University vests and make sure to give them a well-deserved cheer.
More information on the route and what to expect as a spectator can be found here. [:cy]Bydd Prifysgol Abertawe’n cymryd camau breision dros iechyd meddwl ym mis Mehefin, wrth fod yn noddwr balch Hanner Marathon Abertawe. Wedi’i enwi ddwywaith yn hanner marathon gorau’r DU, bydd ras 2023 yn cael ei chynnal ddydd Sul 11 Mehefin.
Oherwydd llwybr a natur y digwyddiad, bydd cyfres o ffyrdd ar gau ledled canol y ddinas a’r ardal o amgylch Campws Parc Singleton. Bydd rhai o’r cyfnodau cau neu gyfyngiadau hyn yn dechrau ddydd Sadwrn 10 Mehefin.
Ceir rhagor o wybodaeth yma am yr holl gyfnodau cau ffyrdd, y cyfyngiadau a’r amseroedd.
Yn ystod y ras, bydd y rhedwyr yn cyrraedd Campws Parc Singleton drwy’r brif fynedfa, felly bydd pob ffordd ar y campws sy’n arwain at Rodfa Fulton ar gau yn ystod y cyfnod hwnnw.
Gan y bydd llwybr yr Hanner Marathon yn cyrraedd y campws, bydd cerbydau argyfwng yn unig yn cael mynediad drwy’r brif fynedfa, gyda’r brif fynedfa a’r cylchfan ar gau drwy gydol y digwyddiad ac yn unol â mesurau cau ffyrdd y Cyngor.
Bydd modd cyrraedd neu adael drwy Ysbyty Singleton, yn ôl yr angen. Sylwer na fydd cludiant cyhoeddus i’r campws nac oddi arno chwaith pan fydd y ffyrdd ar gau.
Ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf am barcio ar y campws ac yn y cyffiniau, yn ogystal ag opsiynau teithio eraill, mae croeso i chi fynd i’n tudalennau gwe teithio.
Rydym yn annog pob myfyriwr i gynllunio unrhyw deithiau ymhell cyn y penwythnos hwn a rhoi digon o amser ar gyfer eich taith.
Mae nifer o fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr yn rhedeg ar ran y Brifysgol. Fel elusen gofrestredig, mae’r rhedwyr sy’n cynrychioli’r Brifysgol yn codi arian ar gyfer ymchwil bresennol y Brifysgol i iechyd meddwl plant a phobl ifanc, cymorth presennol i fyfyrwyr a gweithlu’r GIG mwy gwydn ar gyfer ein myfyrwyr nyrsio.
Beth am wneud y gorau o’r penwythnos a chefnogi eich cyd-fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr sy’n ymgymryd â’r her! Cadwch lygad allan am festiau’r Brifysgol a gwnewch yn siŵr eich bod yn bloeddio eich cefnogaeth.
Ceir rhagor o wybodaeth yma am y llwybr a beth i’w ddisgwyl fel gwyliwr. [:]