Gan eich bod chi bellach wedi cael amser i ymgartrefu, hoffem eich atgoffa am barcio ac opsiynau teithio eraill. 

Argymhellwn nad ydych chi’n dod â’ch car i’r campws. Rydym yn eich annog i gerdded neu seiclo os ydych chi’n gallu, neu ddefnyddio gwasanaethau bws lleol. Os oes rhaid i chi yrru, cofiwch am y trefniadau parcio ar y campws ac o’i amgylch: 

  • Nid oes hawl gan fyfyrwyr i barcio ar Gampws y Bae na Champws Singleton rhwng 8am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener*.
  • Bydd hawlenni y tu allan i oriau craidd yn parhau i fod ar gael i fyfyrwyr am gost o £20 y flwyddyn, sy’n eu galluogi i chi barcio ar y campws y tu allan i’r oriau craidd uchod (h.y. rhwng 4pm ac 8am, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar thros y penwythnos). Ni fydd yn rhaid i bobl â hawlenni y tu allan i oriau craidd dalu’n ychwanegol ar ben costau eu hawlenni.
  • Y tu allan i oriau craidd 8am tan 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, bydd rhaid i bobl heb hawlen y tu allan i oriau craidd (neu hawlen ddilys arall), gan gynnwys ymwelwyr, yn gorfod dalu i barcio ar y campws gan ddefnyddio’r ap neu’r peiriannau talu sydd ar gael – gweler prisiauoedd talu wrth barcio a manylion pellach ar ein gwefan yma.
  • Mae systemau ANPR ar waith ar Gampws y Bae a Champws Parc Singleton:

– Pobl sy’n parcio ar y campws rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener heb hawlen ddilys.

– Pobl sy’n parcio ar y campws yn ystod yr wythnos rhwng 4pm ac 8pam, neu aros dros y penwythnos, heb dalu i barcio neu feddu fod yn ddeiliad ar hawlen y tu allan i oriau craidd (neu hawlen ddilys arall).

Mae gwybodaeth am barcio oddi ar y campws ar gael yma.

Rydym yn eich cynghori i beidio â pharcio yn yr ardaloedd preswyl lleol nac ar safleoedd busnesau lleol. Byddwch yn ystyriol o’n cymdogion a dylech barcio’n ystyriol ac yn gyfrifol. 

* Bydd hawlenni myfyrwyr i barcio ar y campws yn ystod oriau craidd yn parhau i fod ar gael i fyfyrwyr sy’n bodloni meini prawf penodol. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar ein tudalennau gwe teithio.