Cyflwynwch Stori

Cyflwyno straeon i Gylchlythyr Wythnosol y Myfyrwyr

Anfonir e-bost a phynciau nad ydynt yn rhai brys fel crynhoad o newyddion yr wythnos yn y Cylchlythyr Myfyrwyr.

Y dyddiad cau ar gyfer cyfrannu stori at y Cylchlythyr Myfyrwyr yw 4pm bob dydd Gwener.

Cyn cyflwyno erthygl, dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Dylai erthyglau apelio at gynulleidfa eang o fyfyrwyr ar draws y Brifysgol.
  • Mae angen manylion hanfodol gan gynnwys teitl a manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth
  • Rhaid cyflwyno copi gyda chyfieithiad Cymraeg
  • Rhaid i unrhyw luniau a gyflwynir gael cymeradwyaeth hawlfraint
  • Anfonwch luniau/graffigwaith perthnasol yn y dimensiynau canlynol:

1080px x 1080px (cyfryngau cymdeithasol)
1770px x 850px (ein cylchlythyr ar-lein)

Os nad ydych chi’n gallu newid maint eich llun/graffigwaith, anfonwch y ffeil wreiddiol.

*Gwnewch yn siŵr bod yr holl luniau/graffigwaith yn hygyrch a pheidiwch â defnyddio testun lle bynnag y bo modd.
*Sylwer na allwn ddefnyddio lluniau/graffigwaith mewn fformat poster

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gylchlythyr y myfyrwyr, e-bostiwch student-newsletter@abertawe.ac.uk.

Calendr Digwyddiadau

Os hoffech i ni hysbysebu a hyrwyddo digwyddiad sydd ar ddod ar eich rhan chi, anfonwch ragarweiniad dwyieithog atom ynghyd â theitl, amser, dyddiad ac unrhyw wybodaeth berthnasol ynghylch cadw lle i student-newsletter@abertawe.ac.uk.

Defnyddio’r rhestr o gyfeiriadau myfyrwyr: Canllawiau e-bostio’r holl fyfyrwyr

Oes gennych neges bwysig sy’n berthnasol i’r holl fyfyrwyr ac efallai fod angen anfon e-bost at yr holl fyfyrwyr?

Cyfyngir ar nifer y negeseuon a anfonir at yr holl fyfyrwyr er mwyn sicrhau nad ydynt yn boddi mewn negeseuon e-bost. Mae’n ofynnol i bob aelod staff gydymffurfio â’r canllawiau er mwyn sicrhau ein bod yn glynu wrth arfer da wrth gyfathrebu.

E-bostio’r holl fyfyrwyr

Y rhestr o gyfeiriadau e-bost myfyrwyr yw’r dull a ddefnyddir i rannu gwybodaeth hanfodol y brifysgol. Gellir anfon negeseuon o’r categorïau canlynol yn uniongyrchol at bawb ar y rhestr:

  • Negeseuon swyddogol neu ffurfiol (er enghraifft, dyddiadau tymor, newyddion am wasanaethau newydd)
  • Negeseuon brys am yr amgylchedd neu ddiogelwch gan y Brifysgol (er enghraifft gwybodaeth am lid yr ymennydd, cyhoeddiadau Ystadau, cyngor ar ddiogelwch personol gan yr heddlu)

Ni chaniateir anfon negeseuon am y pynciau canlynol yn uniongyrchol at bawb ar y rhestr, ond gellir eu cynnwys yn y cylchlythyr wythnosol ar gyfer myfyrwyr:

  • Cyhoeddiadau adrannau neu gyhoeddiadau am gynadleddau (er enghraifft seminarau ymchwil, manylion cynadleddau)
  • Arolygon
  • Negeseuon am ddigwyddiadau chwaraeon neu ddiwylliannol (er enghraifft, gan y Ganolfan Chwaraeon neu Ganolfan Taliesin)
  • Gwybodaeth am yrfaoedd
  • Gwybodaeth Gwasanaethau Myfyrwyr
  • Digwyddiadau ar y campws
  • Cyfleoedd i gyfranogi neu i ennill incwm (er enghraifft grwpiau ffocws, cyfleoedd i gymryd rhan mewn astudiaethau)

Os nad yw aelod staff yn cydymffurfio â’r canllawiau neu os yw’n defnyddio’r rhestr mewn modd annerbyniol, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i wahardd yr unigolyn hwnnw rhag defnyddio’r rhestr o gyfeiriadau e-bost myfyrwyr. Gwneir y fath benderfyniad gan Ddirprwy Is-ganghellor, y Cofrestrydd, a’r Prif Swyddog Gweithredol.