Rydyn ni’n gwybod bod materion digidol yn bwysig i bawb sy’n dysgu ac yn addysgu ym Mhrifysgol Abertawe.

Gan ddefnyddio Arolwg Cenedlaethol Jisc o Fewnwelediadau Profiad Digidol Myfyrwyr, hoffen ni ddysgu mwy am sut rydych chi’n defnyddio technoleg a sut mae’n effeithio ar eich dysgu.

Dywedwch wrthyn ni sut y gallwn ni wella eich profiad digidol trwy gymryd rhan yn yr arolwg.

Trwy gymryd rhan yn arolwg 22/23, byddwch chi’n ein helpu ni i:

  • Sicrhau bod ein hadnoddau yn gynhwysol ac yn hygyrch
  • Dysgu sut yr hoffech chi i dechnoleg gael ei defnyddio wrth ddysgu ac addysgu
  • Deall sut rydych chi’n defnyddio ein hamgylchedd digidol a’n gwasanaethau digidol, a sut y gallem eu gwella
  • Targedu adnoddau at y materion sy’n bwysig i chi
  • Dechrau sgwrs gyda chi am eich sgiliau, eich disgwyliadau, a’ch profiadau digidol