Gan ddechrau ddydd Sadwrn 18 Tachwedd, mae’r cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd yn y ddinas yn ôl bob penwythnos (dydd Sadwrn a dydd Sul) yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig ac ar gyfer wythnos 27 – 31 Rhagfyr. Rhaid i bob taith fws ddechrau cyn 7pm.
Mae ar gyfer teithiau sy’n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe. Dyma’r ardal yn cael ei ffinio gan Gasllwchwr (Ship & Castle), Pontarddulais (yr Orsaf Drenau), Garnswllt, Clydach (Mynwent Coed Gwilym), Lon-lâs (Bowen Arms) a Phort Tennant (Bevans Row) felly mae’n cynnwys lleoedd fel Gorseinon, Pontarddulais, Gŵyr a Threforys.
Sylwer: Ar gyfer teithio o Gampws y Bae, Rhes Bevan ym Mhort Tennant yw’r safle bws agosaf i’r ardal lle mae’r fenter teithio am ddim yn weithredol.