MAE’N WYTHNOS ADBORTH! Ac rydyn ni’ n awyddus i wybod, “Beth fyddet TI’n ei wneud pe baet TI’n rhedeg Prifysgol Abertawe”?
O 1-8f Rhagfyr, rydyn ni’n gofyn i’n myfyrwyr yn Abertawe i ddweud eu dweud… Beth fyddet ti’n newid am y Brifysgol? Beth fyddet ti’n cadw yr un peth? Beth wyt ti’n meddwl yw’r pethau gwych ac ofnadwy am y Brifysgol? Rydyn ni’n awyddus i glywed!
Os wyt ti’n newydd yma, gad i ni roi rhywfaint o gefndir am yr ymgyrch. Mae Wythnos Adborth yn ymgyrch sy’n cael ei gynnal gan Undeb y Myfyrwyr (ni) bob blwyddyn ac mae’n ffordd o ddeall sut mae myfyrwyr yn teimlo am eu bywyd ym Mhrifysgol Abertawe. Efallai dy fod yn meddwl, “Wel, mae hynny’n dda, ond pam ddylwn i drafferthu i rannu fy marn?” a dyma ein hymateb: “Wyt ti am wneud newid gwirioneddol yn y Brifysgol?” Bydd HOLL adborth a gesglir gan fyfyrwyr trwy gydol Wythnos Adborth, yn gadarnhaol ac yn negyddol, yn cael ei ddadansoddi a’i anfon at Uwch Dîm Arwain y Brifysgol. Gyda’r adborth hwn, credwn gallwn ni wneud newid cadarnhaol go iawn i brofiadau myfyrwyr.
Felly sut allet ti ddweud dy ddweud? Mae hynny’n hawdd!
Chwilia am Swyddogion Llawn-amser a Chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr ar y campws rhwng 1 – 8 Rhagfyr. Bydd ganddyn nhw godau QR ac iPads i gael dy farn yn rhwydd.
Methu dod yn gorfforol? Dim problem! Clicia ar y ddolen hon i ddweud dy ddweud o gysur dy wely, y gampfa, y llyfrgell – lle bynnag hoffet ti.