Rhianedd Collins
Fel Cynrychiolydd, disgwylir i chi arddangos agweddau arbennig a hefyd i ymgymryd â rhai cyfrifoldebau ychwanegol ochr yn ochr â’ch astudiaethau. Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod y myfyrwyr yn eich ysgol ac ar eich cwrs yn cael eu cynrychioli’n deg. Dangosodd Rhianedd Collins, myfyrwraig ôl raddedig o’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, hwn a helpodd i lwyfannu lleisiau myfyrwyr yn ei hysgol, ac felly mae wedi cael y teitl Cynrychiolydd y Mis ar gyfer mis Rhagfyr.
Mae Rhianedd yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd, gan roi mewnbwn gwerthfawr i drafodaethau, ac yn gyson yn blaenoriaethu casglu adborth gan fyfyrwyr. Mae hi hefyd wedi bod yn gweithio i feithrin cymuned ôl raddedig traws gwrs o fewn y Brifysgol. Mae hyn er mwyn i fyfyrwyr ôl raddedig y brifysgol allu cefnogi ei gilydd ag anghenion academaidd a lles.
Yn ystod yr wythnos astudio, trefnodd a chynhaliodd ddigwyddiad sgiliau astudio a chymdeithasol ôl radd ar gyfer YDC a YGC. Llwyddodd i drefnu i gynrychiolydd o CAS fynychu a chynnal gweithdy sgiliau astudio. Daeth nifer dda o fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Mae hi hefyd wedi dechrau trefnu teithiau cerddes a choffi i fyfyrwyr ôl raddedig er mwyn gwella’r cysylltiadau cymdeithasol. Mae’r teithiau cerdded hyn yn digwydd ar gampws, ac mae myfyrwyr yn cael y cyfle i siarad gyda Rhianedd ar lefel mwy personol. Gwirfoddolodd hefyd i fod yn rhan o’r grŵp ffocws llwyfan MyEngagement ac anogodd dros 100 o fyfyrwyr yn llwyddiannus i gwblhau’r arolwg ar gyfer Arolwg Adolygiad WhatUni.
Creodd Rhianedd grŵp WhatsApp hefyd y mae’n ei ddefnyddio i hysbysebu sgiliau astudio ychwanegol a digwyddiadau cymdeithasol a gynhelir. Mae myfyrwyr wedi ymgysylltu’n dda a’r syniad hwn, ac ers hynny mae llawer wedi ymuno a’r grŵp. Rydym yn defnyddio’r cyfle hwn i ganmol Rhianedd ar ei hymroddiad i ddarparu profiad academaidd gwell i fyfyrwyr, a rhoi llwyfan i leisiau ei chyd-fyfyrwyr, i gyd wrth gwblhau ei gradd, Llongyfarchiadau Rhianedd.