Bwyd a gweithgareddau am ddim yng Ngŵyl Adborth MyUni.

I ddathlu lansiad Arolwg Mawr Abertawe a gynhelir bob blwyddyn, rydyn ni’n cyflwyno Gŵyl Adborth MyUni!

Ymunwch â ni ddydd Llun 5 Chwefror yn Creu Taliesin neu ddydd Mawrth 6 Chwefror yn Y Guddfan am fwyd am ddim, hwyl, gemau, crefftau, cerddoriaeth fyw a LLAWER mwy. Bydd y ddau ddigwyddiad yn dechrau am 10am ac yn dod i ben am 4pm, felly nodwch y dyddiad yn eich dyddiadur a rhowch wybod i’ch ffrindiau.

Y cyfan rydyn ni’n gofyn i chi ei wneud yw rhannu eich barn a’ch syniadau drwy gwblhau Arolwg Mawr Abertawe sy’n cymryd tua phum munud. Bydd staff a chynrychiolwyr wrth law i ddangos i chi sut i ddod o hyd i’r arolwg.

 Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni ac mae’n ein helpu i barhau i wella pob agwedd ar fywyd yn y Brifysgol.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn!