Bob blwyddyn, rydym yn gofyn i fyfyrwyr rannu adborth ynghylch eu profiad yn y brifysgol. Mae’n galluogi’r Brifysgol i ddeall yr hyn rwyt ti’n ei fwynhau, yr hyn yr hoffet ti weld mwy ohono a’r hyn y mae angen ei wella yn dy farn di.
Pam dylwn i lenwi arolwg mawr Abertawe?
Yn y blynyddoedd blaenorol, mae adborth blaenorol wedi helpu’r Brifysgol i wneud gwelliannau anhygoel i wella profiad y myfyrwyr, megis:
- Cyflwyno’r ap newydd FyAbertawe, yr holl hanfodion ar gyfer bywyd myfyrwyr i gyd mewn un lle
- Ychwanegu hyd yn oed mwy o fwydydd, bargeinion prydau bwyd, opsiynau fegan a halal i ddewis ohonynt ar campws
- Mannau astudio a mannau cymdeithasol myfyrwyr
- Cynflwyno’r Harbwr, sy’n cynnwys mannau cymdeithasol hyblyg, mannau astudio achlysurol, parth hapchwarae newydd ac ardal awyr agored wedi’i hailddatblygu ar gyfer y misoedd cynhesach
- Mwy o ddosbarthiadau yn y rhagle ‘Byddwch yn Actif‘ sy’n cynnig cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol er mwyn gwella iechyd a lles
- Newidiadau pwysig i Amgylchiadau Esgusodol a’r system Mentora Academaidd
- Bydd Prifysgol Abertawe yn anfon e-byst i dy atgoffa di tan i ti gwblhau’r arolwg
Gwobrau!
Ar ôl rhannu dy farn, byddi di’n rhan o’r raffl yn awtomatig a gallet ti ennill £100, cardiau anrhegion neu dalebau arlwyo. Drwy ateb ychydig o gwestiynau cyflym yn unig!
Diolch ymlaen llaw, rydym ni wir yn gwerthfawrogi llais y myfyrwyr.