Gallwn ddatgelu cynlluniau cyffrous i ailwampio Tŷ Fulton! Mae’r Brifysgol yn gwneud buddsoddiad sylweddol (£35m) yn eich profiad myfyrwyr, gan drawsnewid adeilad eiconig Tŷ Fulton ar Gampws Parc Singleton i fod yn ganolfan gymdeithasol fywiog.
Mae’r dyluniadau cychwynnol yn cynnwys cyfleusterau i fyfyrwyr megis ceginau i gymudwyr, mannau cymdeithasol dynodedig ac ardaloedd hyblyg i gymdeithasau, clybiau a digwyddiadau. Bydd yr adeilad hefyd yn borth i wasanaethau allweddol i fyfyrwyr.
Gallwch weld y syniadau ar gyfer y dyluniad yma.
Fel rhan o fuddsoddiad ehangach i foderneiddio Campws Parc Singleton, bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ym mis Chwefror 2025 a bydd hi’n rhaglen fesul cam o adnewyddu i leihau tarfu.
Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddathlu hanes yr adeilad Gradd II rhestredig wrth gyflwyno datblygiadau modern. Mae cynaliadwyedd yn egwyddor allweddol ar gyfer y dyluniad newydd, gan addasu’r strwythur presennol, lleihau gwastraff, a lleihau carbon ac ynni ymgorfforedig yn sylweddol o’i gymharu ag ymagweddau adeiladu adeilad newydd.
Bydd cyfleoedd parhaus i fyfyrwyr ddweud eu dweud a helpu i lywio’r ailddatblygiad, ond os oes gennych gwestiynau am ein datblygiadau ar y campws, e-bostiwch campusdevelopment@abertawe.ac.uk.
Mae’n mynd i fod yn lle gwych i gymdeithasu a chysylltu â myfyrwyr eraill ar y campws ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn datblygu!