Mae Chris yn un o Gynrychiolwyr Ysgol yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a dymunwn ei ganmol am ei ymrwymiad i gyfoethogi profiad Prifysgol myfyrwyr yn ei Ysgol!
Ar ddechrau’r flwyddyn bu Chris yn cynorthwyo gyda llawer o ddigwyddiadau Croeso ar gyfer y Brifysgol ac yn benodol yr adran Nyrsio. Mae wedi cyd-gadeirio ei Fforymau Myfyrwyr-Staff ac roedd yn rhan fawr o ymgyrch Arolwg ‘WhatUni’.
Ar hyn o bryd mae’n cymryd rhan yng nghyfarfodydd ymyrraeth yr NSS gyda’r Dirprwy Is-ganghellor dros Addysg, i wella profiad myfyrwyr nyrsio, ac mae bob amser yn ei gwneud yn flaenoriaeth i godi pryderon ac ymholiadau myfyrwyr yn y cyfarfodydd hyn.
Yn olaf, symudodd Chris ei leoliadau nyrsio ar gyfer ei gwrs yn anhunanol i’r penwythnosau er mwyn iddo allu bod o gymorth i fyfyrwyr a staff ei Ysgol yn ystod yr wythnos!
Rydym yn cymryd yr amser hwn i ganmol Chris am ei ymroddiad i’w rôl a rhoi llwyfan i fyfyrwyr ar ei cwrs i allu lleisio eu barn a chael effaith gadarnhaol ar brofiad myfyrwyr yn Abertawe!
Diolch Chris, Llongyfarchiadau!