Mae’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd am recriwtio nifer o wirfoddolwyr ymysg y myfyrwyr i fod yn Llysgenhadon Uniondeb Academaidd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am ddylunio a chynnal digwyddiadau ymysg y gymuned o fyfyrwyr i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwnc uniondeb academaidd. Yn ogystal â helpu eich cyd-fyfyrwyr i fynd i’r afael â’r maes cymhleth hwn o fywyd academaidd, bydd y rôl yn helpu i ddatblygu sgiliau allweddol arweinyddiaeth, gwaith tîm a rheoli digwyddiadau.