Bydd South Wales Transport yn gweithredu bws gwennol am ddim i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe bob 15 munud yn ystod y cyfnodau prysuraf rhwng safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian a Champws y Bae, yn uniongyrchol ac ar gylchdaith. Bydd hwn yn wasanaeth parcio a theithio i Gampws y Bae yn unig. Bydd hwn yn ategu gwasanaeth presennol rhif 90a, a fydd yn parhau i weithredu fel y mae ar hyn o bryd. Mae yna tâl o £1 i barcio ar safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian.