Os wyt ti’n fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd, hoffen ni dy wahodd i gymryd rhan. Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn derbyn taleb Amazon sy’n werth £20 yn rhodd am eu hamser.

Ni yw Applied Inspiration ac rydym yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i gynnal ymchwil i ymdeimlad myfyrwyr o berthyn a chysylltiadau a chyflawniadau myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gennym ddiddordeb mewn canfod sut y gall y Brifysgol wella profiadau a chanlyniadau ar gyfer yr holl fyfyrwyr.

Ystafelloedd Gwrando ym Mhrifysgol Abertawe

Beth yw Ystafell Wrando?

Lle i ddau fyfyriwr gwrdd am 30-45 o funudau yw Ystafell Wrando lle gallwn recordio’r drafodaeth sy’n deillio o gardiau procio amrywiol. Er enghraifft, gallai cerdyn procio nodi “Pethau a oedd yn her i fi pan ddechreuais i ym Mhrifysgol Abertawe” neu “Byddai’r un peth hwn yn gwella fy mhrofiadau ym Mhrifysgol Abertawe”. Defnyddir y recordiad i gynhyrchu trawsgrifiad a chaiff yr holl fanylion personol eu dileu cyn ei ddadansoddi i sicrhau na fydd modd adnabod unrhyw fyfyriwr.

Pryd cynhelir yr ystafelloedd gwrando?

Cynhelir yr Ystafelloedd Gwrando ar-lein ar ddyddiadau ac amserau amrywiol yn ystod mis Mawrth 2024. Gall myfyrwyr wirfoddoli mewn parau os dymunant wneud hynny, neu gallwn dy baru â myfyriwr arall – ti sy’n dewis.

Grwpiau Ffocws ym Mhrifysgol Abertawe

Beth fydd y Grwpiau Ffocws yn ei gynnwys?

Cynhelir pob grŵp ar-lein a bydd yn para rhwng 45 o funudau ac 1 awr a bydd uchafswm o 7 myfyriwr ym mhob grŵp. Bydd y grwpiau ffocws yn cael eu hwyluso gan ymchwilydd o’r tîm Ysbrydoliaeth Gymwysedig a chaiff y sgwrs ei recordio er mwyn hwyluso’r gwaith o lunio trawsgrifiad. Caiff yr holl recordiadau eu cadw’n ddiogel a chaiff yr holl fanylion personol eu dileu o’r trawsgrifiadau i sicrhau na fydd modd adnabod unrhyw fyfyriwr.

Bydd yr hwylusydd yn gofyn cwestiynau amrywiol, er enghraifft, ynghylch dy brofiadau o ddechrau ym Mhrifysgol Abertawe, yr hyn a wnaeth dy ddenu i’r Brifysgol a pha heriau rwyt ti wedi eu profi. Mae croeso i ti ymateb yn dy eiriau dy hun, yn agored ac yn onest.

Bydd y sgwrs yn anffurfiol a bydd yn lle diogel i fyfyrwyr gynnig adborth.

Pryd cynhelir y Grwpiau Ffocws?

Cynhelir y Grwpiau Ffocws ar-lein ar ddyddiadau ac amserau amrywiol yn ystod mis Mawrth 2024. Gelli di nodi pa ddyddiad ac amser sy’n well gennyt.

Beth mae angen i mi ei wneud i gymryd rhan?

Os hoffet ti gymryd rhan, clicia ar y ddolen isod. Gofynnir i ti nodi dy enw, dy rif adnabod myfyriwr a dy e-bost yn ogystal â nodi pa ddyddiad ac amser cynnal gweithdy sy’n well gennyt Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu cofrestru mewn parau os dymunant wneud hynny.

Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?