Mae Academi Cynwysoldeb Abertawe wedi datblygu modiwl Gwrth-hiliaeth ar y cyd â myfyrwyr, ac rydyn ni am i chi fod ymhlith y rhai cyntaf i’w brofi.
Er mwyn cyfranogi, darllenwch a chyflwynwch y ffurflen gydsynio erbyn 12pm ar 29 Chwefror 2024. Ar ôl hynny, cewch e-bost i gwblhau’r cwrs a darparu eich adborth.
I ddiolch i chi, rydyn ni’n rhoi talebau gwerth £10 i fyfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs peilot!
Bydd eich mewnbwn yn cael ei ddefnyddio i werthuso’r cwrs a bydd yn penderfynu a yw’n addas i addysgu pobl, a meithrin amgylchedd gwrth-hiliol a chynhwysol.
Unrhyw gwestiynau? Cysylltu – Academi Cynwysoldeb Abertawe