Ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng label ‘rhydd rhag’ a label ‘figan’?
Mae label ‘rhydd rhag’ yn rhoi sicrwydd nad yw’r cynnyrch yn cynnwys yr alergen dan sylw. Er mwyn cael defnyddio’r label hwn, rhaid i fusnesau bwyd ddilyn prosesau llym i sicrhau nad yw’r alergen yn bresennol.
Fodd bynnag, nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol i gynhyrchion figan na chynhyrchion planhigion, sy’n golygu y gallai fod siawns o groeshalogi ag alergenau fel llaeth, wyau, pysgod neu bysgod cregyn.
Peidiwch â chymryd y risg. Darllenwch y label bob amser.