Bydd Hasan Kamil, artist a dylunydd lleol, yn goleuo ein campysau â dau furlun newydd sbon yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae Hasan wedi gweithio ar rai prosiectau anhygoel, gan gynnwys y trên tiwb yng Ngŵyl Glastonbury, y Big Summer Send-Off yn Sŵ Bryste, ac yn fwy lleol y murlun eiconig uwchben y Dark Horse yn y Mwmbwls.

Bydd y murlun ar Gampws y Bae yn cael ei osod gyferbyn â’r safleoedd bws yn ystod yr wythnos yr wythnos hon, a bydd y murlun ar Gampws Parc Singleton yn cael ei osod yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 18 Mawrth. Mae’r ddau furlun wedi cael eu hysbrydoli gan eiconau diwylliannol lleol yn ogystal â threftadaeth a hanes diwydiannol cyfoethog Abertawe.

Dewch draw i weld Hasan ar waith!