Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod ledled y byd. Mae’n taflu goleuni ar lwyddiant, gwydnwch a chynnydd anhygoel menywod o bob cefndir, boed hynny yn y byd academaidd, y celfyddydau, gwyddoniaeth, byd busnes, actifiaeth gymdeithasol, neu lu o feysydd eraill.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hefyd yn nodi galwad i weithredu dros gyflymu cydraddoldeb menywod, a’r thema eleni yw #YsbrydoliCynhwysiant. Mae’r thema yn tanlinellu rôl hanfodol cynhwysiant wrth gyflawni cydraddoldeb rhywiol. Mae’n galw am chwalu rhwystrau, herio stereoteipiau a chreu amgylcheddau lle mae pob menyw yn cael ei gwerthfawrogi a’i pharchu. Mae Ysbrydoli Cynhwysiant yn annog pawb i gydnabod safbwyntiau a chyfraniadau unigryw menywod o bob cefndir, gan gynnwys y rhai o gymunedau ymylol.

Rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Bydd y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn gwerthu cacennau i elusennau ar Gampws y Bae (dydd Mawrth 5 Mawrth) a Champws Parc Singleton (dydd Iau 7 Mawrth). Ddydd Mercher 6 Mawrth, bydd Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnal sesiwn ryngweithiol, “Menywod yn y Gyfraith” (1pm, Ystafell Ffug Lys Barn y Techniwm Digidol). Ar agor i bawb, mae’r digwyddiad hwn wedi cael ei lunio a chaiff ei ddarparu gan Brosiect Cyfraith Stryd Clinig y Gyfraith Abertawe, a bydd yn myfyrio ar gynnydd yn y maes. Cofrestrwch yma.

Ddydd Gwener, 8 Mawrth, bydd y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn cynnal digwyddiad rhwydweithio amser cinio am 12.30pm yn Ystafell Seminar yr ILS. Dr Holly Morse o’r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol fydd y siaradwr gwadd. Os ydych am ddod, a wnewch chi gofrestru yma.

Bydd ein tîm Llyfrgell hefyd yn cynnal arddangosfa Diwrnod Rhyngwladol Menywod yng nghyntedd Llyfrgell Singleton o’r 7fed o Fawrth hyd at ddiwedd y mis. Bydd yr arddangosfa yn dathlu menywod mewn GTPM o Brifysgol Abertawe a thu hwnt gyda ffotograffau, cardiau gwybodaeth a gwrthrychau ffisegol o’n casgliadau archifol.

Gadewch i ni ei wneud yn ddiwrnod i’w gofio. Gyda’n gilydd, gallwn barhau i ymdrechu am ddyfodol lle mae pob menyw a merch yn cael y cyfle i ffynnu a llwyddo.