Bob blwyddyn, mae Discovery yn recriwtio, yn hyfforddi ac yn cefnogi tîm bach o Gydlynwyr Prosiect ymrwymedig a bywiog i arwain grwpiau o wirfoddolwyr yn ogystal â threfnu a chyflwyno gweithgareddau cymunedol drwy ein Rhaglen Arweinyddiaeth Gymunedol.

Mae’r cynllun yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr nid yn unig ddatblygu sgiliau ond cymryd y cam cyntaf tuag at reoli prosiectau ac arwain tîm mewn rolau arwain cymunedol ymarferol.

Gyda llawer o hyfforddi a chymorth, caiff prosiect Discovery penodol ei neilltuo i bob Cydlynydd Prosiect (CP) a fydd yn gyfrifol am ei arwain. Fel CP, maent yn gyfrifol am gynllunio a chydlynu gwaith i sicrhau y caiff yr holl weithgareddau eu cwblhau’n ddiogel ac yn llwyddiannus wrth reoli deinamig grŵp ymhlith gwirfoddolwyr a sicrhau bod y profiad yn un cadarnhaol i bawb. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt wneud popeth ar eu pennau eu hunain. Gallant ddirprwyo tasgau i wirfoddolwyr eraill, megis gwneud galwadau ffôn, trefnu cludiant neu gynnal gweithgareddau cyflwyno.

Caiff Cydlynwyr Prosiect eu cefnogi’n llawn gan y Rheolwr Prosiectau Gwirfoddoli, y Gweithiwr Cymorth Prosiectau a gweddill staff a thîm o ymddiriedolwyr Discovery.

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer 2024-25

Lawrlwythwch eich pecyn cais yma

Dyddiad cau: Dydd Gwener 28ain o Mehefin 2024