Mae’n bleser gennym eich gwahodd i’r Fforwm Cynhwysiant Hil cyntaf erioed i fyfyrwyr i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu Hiliol ym Mhrifysgol Abertawe. Nod y digwyddiad hwn yw creu lle ar gyfer deialog agored ynghylch materion sy’n ymwneud â hil, hyrwyddo dealltwriaeth a gweithio tuag at amgylchedd mwy cynhwysol i bawb yn y Brifysgol. Anogwn fyfyrwyr o bob cefndir i ymuno â ni ar gyfer y profiad buddiol hwn.

Darperir pizzas a bydd gwobrau i’w hennill hefyd!

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch ag Academi Cynwysoldeb Abertawe

Dyddiad: 20 Mawrth 2024

Amser: 13:00 – 14:00

Lleoliad: Faraday C, Singleton Campus