Gall dod o hyd i swydd a chael eich cyflogi’n llwyddiannus deimlo’n llethol weithiau. Dyma pam mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) wedi buddsoddi yn y teclynnau deallusrwydd artiffisial diweddaraf i helpu i hybu eich cyflogadwyedd!

P’un a ydych chi’n chwilio am rôl ran-amser i helpu i ariannu eich amser yn y Brifysgol, eisiau ennill profiad amhrisiadwy dros gyfnod y gwyliau neu’n paratoi i ddod o hyd i’ch swydd ddelfrydol ar ôl graddio, rydym wedi dod o hyd i feddalwedd deallusrwydd artiffisial, wedi’i gwirio a thalu amdani i helpu, ymhob cam o’r broses recriwtio.

Felly, pa help allwch chi ei gael?

  1. CV a llythyr eglurhaol: A oes angen help arnoch i deilwra eich CV a’ch llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd rydych chi’n ymgeisio amdani? Gall CareerSet helpu i wella ac arddangos eich sgiliau a’ch profiadau gorau, gan brofi mai chi yw’r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd! Mewngofnodwch i’ch cyfrif a defnyddiwch yr opsiwn “Targedu eich CV” i ddangos sut rydych chi’n diwallu anghenion y cyflogwr a chynyddu eich tebygolrwydd o lwyddo.
  2. Ymarfer am uned / canolfannau asesu: Rydych wedi bod yn llwyddiannus wrth gyrraedd rownd nesaf y broses recriwtio, ac rydych wedi eich gwahodd i uned/canolfan asesu. Beth nawr? Gall Profiling for Success eich helpu i ymarfer ar gyfer yr asesiadau / profion seicometrig gwahanol a ddefnyddir yn y broses recriwtio, gan gynnwys rhesymu rhifiadol a llafar, meysydd eich personoliaeth, medrusrwydd, cymhelliant a pherthnasoedd.
  3. Ffug gyfweliad: Yn teimlo’n nerfus ar gyfer cyfweliad sydd ar ddod? Mae gwir yn yr hen ddywediad – gorau arf arfer! Defnyddiwch Shortlist.me ein teclyn ymarfer cyfweliadau i efelychu cyfweliadau go iawn, ymarfer a recordio eich ymatebion, cyn cael adborth deallusrwydd artiffisial. Dewiswch o ystod eang o sectorau a rolau penodol a sefydliadau i ennill profiad perthnasol.
  4. Efelychiad swydd: Ydych chi erioed wedi breuddwydio am weithio i gwmni o safon fyd-eang? Gall Forage, ein llwyfan efelychiadau swyddi, eich helpu i gael profiad o sut beth yw gweithio i dros 150 o gyflogwyr mawr, mewn dros 250 o swyddi.

Os nad ydych yn siŵr lle i gychwyn, ewch i’n Cwrs Datblygu Gyrfa*, a grëwyd yn benodol ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe gan ein hymgynghorwyr gyrfaoedd arbenigol.

Yn barod i chwilio am eich cyfle nesaf? Ewch i’n Bwrdd Swyddi Digidol yn y Parth Cyflogaeth i chwilio am swyddi rhan-amser, interniaethau, rolau amser llawn a rolau i raddedigion. Byddwch hefyd yn dod o hyd i’n holl ddigwyddiadau gyrfaoedd a chyflogadwyedd a chyfleoedd rhwydweithio yma.

Am ragor o wybodaeth am y cymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd sydd ar gael yn Academi Cyflogadwyedd Abertawe, ewch i’n gwefan.

* Derbyn dyfarniad y Cwrs Datblygu Gyrfa trwy gwblhau pum uned a derbyn y dyfarniad Cwrs Datblygu Gyrfa Uwch drwy gwblhau deg uned, gellir eu hychwanegu at eich Cofnod Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR).