Wyt ti’n ystyried cwrs TAR yn Abertawe? Neu eisiau gwybod pa gyfleoedd sydd ar gael mewn ysgolion, Addysg Bellach, gwaith ieuenctid, Dysgu Seiliedig ar Waith neu Ddysgu Oedolion?
Dere i sgwrsio â thîm Addysgwyr Cymru a fydd ar y campws ar 17 Ebrill i ateb dy holl gwestiynau.
Byddwn ni ar gael rhwng 12:30 a 14:00 ym Mloc Stablau Abaty Singleton.
Byddi di’n gallu cael gwybod am y cyrsiau sydd ar gael, yr arian sydd ar gael i ti wrth gychwyn ym myd addysg yn ogystal â’r cymorth y gall tîm Addysgwyr Cymru ei gynnig drwy gydol dy daith.