Dyma’r ail mewn cyfres o wobrau y bydd ein partner Santander yn eu cynnal ar gyfer holl fyfyrwyr y brifysgol – hyd yn oed os nad wyt ti’n bancio gyda nhw. Gall pob myfyriwr o’r DU roi cynnig arni, gan gynnwys israddedigion, ôl-raddedigion, a myfyrwyr rhan-amser ac amser llawn. Felly bydd yn siŵr o rannu hyn â’th ffrindiau, dy gyd-fyfyrwyr ac unrhyw un arall a allai elwa o’r cyfle hwn.
Gelli di gymryd rhan mewn munudau drwy ddilyn y tri cham syml hyn:
1) Cofrestru ar gyfer Santander Open Academy – platfform dysgu ar-lein am ddim (os nad wyt ti wedi gwneud hynny eisoes)
2) Pwyso ar y ddolen wirio yn dy e-bost cadarnhau
3) Mewngofnodi a dewis ‘Get Started’ i gwblhau dy gais ar gyfer Raffl Prifysgolion Santander i ennill £10,000. Bydd y cyfnod cyflwyno ceisiadau’n cau am 11pm ar 25 Ebrill 2024.
Paid â cholli’r cyfle gwych hwn i wneud dy fywyd pob dydd ychydig yn haws. Cofrestra erbyn 11pm ar 25 Ebrill 2024.