Arolwg sy’n asesu canfyddiad myfyrwyr Prifysgol Abertawe o frechlynnau a fferyllfeydd yng Nghymru.

Gwahoddir myfyrwyr Prifysgol Abertawe i gymryd rhan mewn arolwg traethawd hir. Y nod yw deall canfyddiadau myfyrwyr o frechlynnau ac a ydynt yn meddwl y dylai fferyllfeydd gael eu defnyddio’n fwy er mwyn rhoi brechlynnau. Bydd eich ymateb i’r arolwg hwn yn helpu i ddadansoddi canfyddiadau cyffredinol myfyrwyr Prifysgol Abertawe ynghylch y pynciau hyn.

Dylai’r arolwg hwn gymryd oddeutu 10 munud i’w gwblhau.

Cliciwch ar y ddolen isod i gwblhau’r arolwg.

Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn gwbl wirfoddol, a chaiff eich atebion eu cadw’n gyfrinachol. Os oes gennych sylwadau neu gwestiynau, e-bostiwch fi yn 2108269@abertawe.ac.uk neu fy ngoruchwyliwr juman.dujaili@abertawe.ac.uk

Mae’r astudiaeth hon wedi cael barn foesegol ffafriol gan SUMS RESC (Cyfeirnod y Prosiect: 9406).

Diolch yn fawr am eich amser a’ch cydweithrediad.