Mae amser o hyd i ymuno â Thîm Abertawe a chofrestru am Hanner Marathon Abertawe 2024, gan fanteisio ar ffi gofrestru is ar gyfer myfyrwyr!
Cynhelir y ras eleni ddydd Sul 9 Mehefin 2024 a dylai fod yn fwy ac yn well nag erioed wrth i ni ddathlu pen-blwydd y ras yn 10 oed – ac ail flwyddyn Prifysgol Abertawe fel noddwr.
Y llynedd, cymerodd mwy na 100 o fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr ran yn yr hanner marathon er budd elusen ‘Camau Breision’ y Brifysgol, gan godi mwy nag £20,000 i gefnogi iechyd meddwl gwell i bawb. Mae’r rhoddion hyd yn hyn wedi cyfrannu at fentrau cyffrous, gan gynnwys buddsoddi mewn cymorth a chyfarpar ychwanegol i’n nyrsys dan hyfforddiant – darllenwch fwy am y mathau o brosiectau y mae Camau Breision yn eu cefnogi.
Bydd un o enwogion rygbi Cymru, Ryan Jones, yn dychwelyd eleni fel Llysgennad Tîm Abertawe – dyma sylwadau Ryan am yr hyn a aeth â’i fryd am y ras y llynedd, a pham bydd yn dychwelyd. (link to video)
Os hoffech chi fynd i’r afael â her newydd, codi arian at achos da, neu os ydych chi’n dwlu ar redeg, bydden ni wrth ein boddau pe baech chi’n ymuno â ni.
Mae aelodau o Dîm Abertawe’n derbyn amrywiaeth eang o fuddion, gan gynnwys mynediad at grŵp Strava cefnogol, triniaethau osteopatheg am ddim, sesiynau Pilates arbenigol, digwyddiadau unigryw a thocynnau i wylio timau rygbi’r Gweilch a’r Scarlets.
Peidiwch â phoeni os na fyddwch chi yn Abertawe! Eleni, byddwch chi’n cael cyfle i gymryd rhan yn Hanner Marathon Rhithwir Abertawe sy’n rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn ffordd ac mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi. Er bod y disgownt ar y ffi gofrestru yn gyfyngedig i’r rhai hynny sy’n cymryd rhan yn y ras yn Abertawe, gallwch chi fod yn rhan o Dîm Abertawe o hyd a Chymryd Camau Breision dros Iechyd Meddwl.
Os nad yw rhedeg at eich bryd, mae digon o gyfleoedd eraill i wneud gwahaniaeth, o noddi eich ffrindiau, eich cyd-letywyr a’ch cyd-fyfyrwyr, i wirfoddoli ar y dydd, a dangos eich cefnogaeth yn y dorf – byddwn ni’n rhannu mwy o wybodaeth yn agosach at ddiwrnod y ras am yr holl ffyrdd eraill y gallwch chi gymryd rhan.
Hoffech chi gofrestru neu gael rhagor o wybodaeth? Neu gallwch chi fynd i dudalen we Hanner Marathon Abertawe, a darllen astudiaethau achos rhai pobl a wnaeth redeg y llynedd.
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i Dîm Abertawe!