Ym mhennod gyntaf Archwilio Problemau Byd-eang, Tymor 4, Dr Luca Trenta, mewn sgwrs â’r gwesteiwr Dr Sam Blaxland, mae’n trafod defnydd gwladwriaethau o weithredu cudd, gan roi sylw i ran Llywodraethau UDA mewn llofruddiaethau a noddir gan y wladwriaeth.

Gan rychwantu’r cyfnod o’r Rhyfel Oer hyd at y cyfnod cyfoes, mae Dr Trenta yn archwilio dimensiynau cywrain y gweithrediadau cudd hyn ac yn herio’r canfyddiad cyffredin o lofruddiaeth fel rhywbeth unigryw i gyfundrefnau awdurdodaidd.