Ydych chi’n teimlo eich bod yn derbyn gormod o e-byst, neu nad ydynt yn berthnasol i chi? Rydym am ddeall sut rydych yn teimlo am y math o e-byst rydych yn eu derbyn yn eich mewnflwch myfyriwr, y nifer ohonynt a’r pynciau.

Mae eich profiad a’ch adborth yn amhrisiadwy er mwyn i ni ddeall sut dylem ni fod yn cyfathrebu â chi!

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth a fydd yn gofyn am ychydig funudau o’ch amser bob dydd. Nod yr astudiaeth yw:

  • canfod faint o e-byst rydych chi’n eu derbyn a chan bwy,
  • a yw’r e-byst yn berthnasol i’ch lefel astudio,
  • a ydych chi’n derbyn mwy nag un e-bost ar yr un pwnc,
  • beth sy’n gwneud i chi eisiau darllen e-bost?

Gofynnir i gyfranogwyr ateb ychydig gwestiynau bob dydd am eu mewnflychau myfyrwyr drwy arolwg ar-lein. Bydd eich ymatebion yn gyfrinachol ac ni fyddwn yn gofyn i weld manylion cynnwys eich e-byst. Ar ôl cwblhau’r astudiaeth, bydd pob myfyriwr yn derbyn taleb Amazon o £10.

 

Rydym yn chwilio am amrywiaeth o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ar draws yr holl Gyfadrannau. Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan yn yr astudiaeth hon, cofrestrwch eich diddordeb ar ein ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi.