P’un a wyt ti am ddechrau neu wella dy fusnes, mae yna weithdy i ti.

Mae ein Gweithdai Hyfforddi Busnes Dwys wedi’u llunio i roi’r offer, yr wybodaeth a’r cysylltiadau y mae eu hangen arnat ti i ragori. Rho hwb i dy sgiliau entrepreneuraidd a gwiredda dy freuddwydion. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael – cadwa dy le di nawr!

Bydd y gweithdy ar-lein yn cael ei gynnal bob dydd Mercher ym mis Mehefin gan Unpreneur, a bydd entrepreneuriaid addawol o brifysgolion eraill ar draws y Deyrnas Unedig yn bresennol, sy’n gyfle gwych i rwydweithio.

Noda a hoffet fynychu’r digwyddiad wyneb yn wyneb neu ar-lein wrth ymgeisio!

Sylwer, cais yn unig yw hwn! Bydd y Tîm Mentergarwch yn adolygu dy gais ac yn cadarnhau a wyt ti wedi cael lle ar y rhaglen.

 Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Archebwch eich un chi nawr!