Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe
Fe’ch gwahoddir i rannu’r foment pan fyddwn yn cyhoeddi ein henillydd ar gyfer 2024.
Derbyniad o 5:30pm
Bydd y seremoni’n dechrau’n brydlon am 6:15pm
Bydd y noson yn cynnwys darlleniadau gan y chwe awdur ar y rhestr fer a chyhoeddi enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2024. Pa awdur fydd yn ennill y wobr o £20,000?
Mae’r tocyn yn cynnwys derbyniad cyn y seremoni wobrwyo.
Oedran argymelledig: 16 neu’n hŷn.
Gwisg: Smart
Bydd copïau o’r llyfrau ar y rhestr fer a’r llyfr buddugol ar gael i’w prynu yn y digwyddiad gan y gwerthwr llyfrau annibynnol, ‘Cover to Cover’.