Mae arholiadau wedi dechrau felly rydym am rannu rhywfaint o gyngor i’ch helpu!

1. Beth am greu amserlen astudio?

Mae amserlen adolygu yn eich helpu chi i ganolbwyntio ar yr hyn mae angen ei wneud ac erbyn pryd, sy’n ddefnyddiol wrth i’r cyfnod arholiadau nesáu. Yn y bôn, bydd yn eich helpu chi i astudio’n fwy effeithiol ac yn fwy doeth.

Dyma ffordd syml o fod yn fwy effeithiol a bydd yn eich helpu i wybod yn syth beth sydd angen ei wneud!

Dyma erthygl ddefnyddiol i’ch helpu i greu amserlen astudio effeithiol.

2. Torrwch bynciau’n ddarnau llai

Gall ceisio adolygu pwnc cyfan, modiwl anodd neu bwnc sydd eisoes wedi bod yn heriol i chi fod yn frawychus.

Bydd yn eich helpu chi i dorri’r rhain yn ddarnau haws i’w llyncu, gan eu gwneud nhw’n llai brawychus. Yna, gall hyn eich helpu i greu eich amserlen adolygu!

3. Ceisiwch osod nodau y gellir eu cyflawni

Ceisiwch osod nodau rydych chi am eu cyflawni bob tro byddwch chi’n eistedd lawr i astudio.

Bydd hyn yn sicrhau eich bod chi’n cael budd o BOB sesiwn astudio ac yn ennyn ymdeimlad cyson o gyflawni. Gall llwyddo i gyflawni nod, hyd yn oed un bach, wneud i chi deimlo’n wych.

Mae’n bwysig herio eich hun, ond ceisiwch beidio â gosod nodau na allwch chi eu cyflawni ar gyfer un sesiwn astudio. Byddwch yn garedig â chi’ch hun.

4. Addaswch eich nodiadau

Gall nodi popeth mae angen i chi ei gofio wir helpu i bethau lynu yn eich meddwl! Cymerwch amser i grynhoi sawl tudalen yn nodiadau cryno iawn a byrfoddau.

Gallwch chi barhau i fyrhau a newid eich nodiadau adolygu, oherwydd drwy wneud hyn rydych chi’n parhau i feddwl am yr hyn rydych chi am ei gofio! Hefyd, os ydych chi’n parhau i ddarllen yr un peth dro ar ôl tro, rydych chi’n debygol o ddiflasu a cholli diddordeb.

5. Neilltuwch ddigon o amser i chi gysgu

Mae cysgu mor bwysig! Gall paratoi am arholiadau a’u sefyll eich blino’n emosiynol ac yn gorfforol.

Rydym ni’n gwybod ei bod hi’n haws dweud na gwneud, ond ceisiwch gysgu’n dda. Bydd yn eich helpu chi i gofio pethau’n haws, a bydd yn lleihau eich risg o flino a cholli cymhelliant.

6. Cymerwch saib

Allwch chi ddim gweithio’n ddi-baid… dyw hynny ddim yn bosib! Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cymryd seibiannau a bod yn garedig â chi’ch hun i gynnal y cymhelliant a chyflawni’r gwaith. Beth am gael coffi gyda ffrind, neu awr fach ar feic Santander! Yn Abertawe, rydym yn ffodus iawn o gael mannau awyr agored gwych fel Parc Singleton, Bae Abertawe, Gerddi Clun a’r Mwmbwls, felly manteisiwch i’r eithaf arnynt.

Sut bynnag byddwch chi’n treulio eich egwyl, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud hynny’n rheolaidd. Cymerwch amser i ymlacio eich ymennydd, oherwydd fel arall gall fod yn anodd canolbwyntio a chofio pethau’n dda.

7. Gorau arf arfer!

Bydd cyn bapurau yn sicrhau y byddwch chi’n gyfarwydd â’r cwestiynau byddwch chi’n eu hwynebu, ac fel hyn, ni fydd y geiriad na’r fformat yn eich poeni chi. Mae hefyd yn syniad da i gwblhau cyn bapurau dan amodau arholiad i roi syniad gwell i chi o ba mor gyflym bydd yn rhaid i chi weithio drwyddyn nhw pan ddaw diwrnod yr arholiad.

8. Dim lle i bethau sy’n tynnu sylw

Ac yn olaf, rydym ni’n argymell dadactifadu unrhyw gyfryngau cymdeithasol sy’n tynnu eich sylw, neu apiau sy’n cymryd llwyth o amser, am y tro. Byddwch chi’n synnu faint y bydd eich cynhyrchiant yn gwella! A byddwch yn onest, rydym ni i gyd wedi ‘gwirio’r cyfryngau cymdeithasol am 5 munud fach’ ac wedi treulio oriau’n sgrolio drwyddynt. Pecyn cymorth ar-lein yw Hapus sydd â gwybodaeth ac awgrymiadau ynghylch mynd i’r afael â’r duedd i ohirio pethau. Ewch i’r dudalen we.