Cadarnhawyd bod achos o septisemia meningococaidd/meningitis gan fyfyriwr sy’n mynychu Prifysgol Abertawe. Nid oes angen pryderu, diben y llythyr hwn yw rhoi gwybod i chi am y camau a gymerwyd a chodi ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau’r clefyd.

Mae’r holl gysylltiadau agos wedi’u nodi ac mae’r rhai y mae angen meddyginiaeth arnynt yn cael eu trin. Ni chynghorir meddyginiaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n mynychu’r Brifysgol yn gyffredinol. Nid atal clefyd meningococaidd yn yr unigolyn sy’n cael ei drin yw meddyginiaeth ond atal ymlediad y bacteria gan gysylltiadau agos i’r gymuned ehangach.

Gall clefyd meningococol effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg ac, felly, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o symptomau’r clefyd sy’n cynnwys:

  • pen tost
  • gwres
  • syrthni
  • cyfogi
  • stiffrwydd gwddf
  • o bosibl brech goch nad yw’n pylu pan gaiff ei gwasgu â gwydr.

Os byddwch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn datblygu unrhyw un o’r symptomau a ddisgrifir uchod, dylech geisio cyngor meddygol ar unwaith.

Nid oes angen cysylltu â’ch Meddyg Teulu oni bai eich bod yn teimlo’n sâl neu os nad ydych chi wedi cael eich holl frechiadau. Dylech fod wedi cael dos o frechlyn meningitis (MenACWY) pan oeddech tua 14 oed, mae’n bwysig eich bod yn cael y dos hwn o’r brechlyn.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael i’r cyhoedd hefyd drwy ffonio GIG 111 neu fynd i: