Cynhelir Hanner Marathon Abertawe eleni ddydd Sul 9 Mehefin 2024, ac mae Prifysgol Abertawe’n falch o ddathlu ein hail flwyddyn fel noddwr.

Rydym wrth ein boddau bod mwy na 200 o fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr wedi cofrestru i redeg yr hanner marathon ar gyfer elusen ‘Camau Breision’ y Brifysgol, gyda’r nod o godi £20,000 i gefnogi gwaith gwella iechyd meddwl i bawb.

Rydym yn deall na fydd pawb mewn sefyllfa i gefnogi’n ariannol, felly mae digon o gyfleoedd eraill i gymryd rhan, o wirfoddoli ar y diwrnod i ddangos cefnogaeth fel gwyliwr. Mae Campws Singleton yn barth swyddogol i wylwyr y digwyddiad eleni, a byddem wrth ein boddau’n eich croesawu i’r campws i gefnogi ein rhedwyr wrth iddynt fynd heibio!

Rydym yn gwybod nad yw rhedeg at ddant pawb, ond gallwch wneud gwahaniaeth o hyd drwy noddi eich ffrindiau, eich cyd-letywyr neu’ch cyd-fyfyrwyr. Mae pob un o’n rhedwyr wedi creu tudalen JustGiving lle mae’n casglu rhoddion, neu gallwch gyfrannu at dudalen ymgyrch gyffredinol y Brifysgol – bydd unrhyw beth y gallwch ei roi yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n gwaith o wella mynediad at gymorth iechyd meddwl.

Hyd yn hyn, mae’r rhoddion yn sgîl digwyddiad y llynedd wedi cyfrannu at fentrau cyffrous, gan gynnwys buddsoddi mewn cymorth a chyfarpar ychwanegol i’n nyrsys dan hyfforddiant– darllenwch ragor am y mathau o brosiectau y mae Camau Breision yn eu cefnogi.

Diolch am gefnogi Tîm Abertawe, sut bynnag y gallwch.