Rydym yn recriwtio tîm o Gynrychiolwyr Ysgol ar gyfer pob un o’n 11 Ysgol i gynrychioli llais y myfyrwyr a’n helpu i barhau i wella profiad myfyrwyr!
Felly, beth yw Cynrychiolydd Ysgol?
Mae Cynrychiolwyr Ysgol yn unigolion penodedig sy’n gweithio’n agos gyda Chynrychiolwyr Pwnc i gynrychioli’r holl fyfyrwyr yn eu Hysgol. Cânt eu cefnogi gan Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr, Tîm Llais Myfyrwyr yr UM, a staff y Brifysgol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad Abertawe.
Maent yn mynychu cyfarfodydd gyda staff yn eu Hysgol, yr UM, a hyd yn oed yn cyfrannu at bwyllgorau pwysig y Brifysgol!
Mae’n brofiad gwych i’w ychwanegu at eich CV a bydd yn edrych yn ddeniadol i gyflogwyr y dyfodol. Hefyd, byddwch yn gwneud ffrindiau newydd, yn rhwydweithio â staff ar draws y Brifysgol, yn datblygu sgiliau diddiwedd, ac wrth gwrs yn helpu i wneud gwahaniaeth ystyrlon i’ch Ysgol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, gwnewch gais trwy borth cyflogaeth Undeb y Myfyrwyr yma: Current Vacancies powered by StaffSavvy (susustaff.com)
Os byddwch yn llwyddiannus yn y broses ymgeisio, cewch eich gwahodd i gyfweliad grŵp rhithwir yn yr wythnos sy’n dechrau ar y 1af o Orffennaf.
Mae ceisiadau’n cau am hanner dydd ar y 24ain o Fehefin, am fwy o wybodaeth cysylltwch â hello@swansea-union.co.uk neu SPES@swansea.ac.uk
Pob lwc!
Mae ceisiadau'n cau am hanner dydd ar y 24ain o Fehefin
Day(s)
:
Hour(s)
:
Minute(s)
:
Second(s)