Mae’n bleser mawr gennym roi gwybod i chi bod y gwaith i adnewyddu ein prif gegin yn Nhŷ Fulton bellach wedi’i gwblhau!
Mae hwn wedi bod yn fuddsoddiad pwysig iawn yn eich profiad ar y campws. Mae’r gegin wedi’i thrawsnewid yn gegin fasnachol fodern lle gallwn greu bwydlenni cynaliadwy a chyffrous sy’n diwallu anghenion amrywiol ein cymuned ar y campws.
Dyma hefyd gam olaf datblygiad Harbwr Fulton, ac rydym yn falch iawn o weld ein gofod bwyta ac yfed diweddaraf ar Gampws Singleton yn barod i agor.
Bwyta ac Yfed yn Harbwr
Cymerwch gipolwg ar yr hyn sy’n cael ei gynnig yn Harbwr ar ap Uni Food Hub, lle gallwch archwilio mannau arlwyo ar y campws, pori bwydlenni, archebu eich bwyd ar-lein a chael cynigion a gwobrwyon, i gyd mewn un lle – gallwch hefyd archebu o’r ciosg y tu mewn i’r lleoliad.
Rydym wir yn gobeithio eich bod yn mwynhau’r gofod newydd gwych hwn ar y campws. Os nad ydych wedi cael y cyfle i ymweld â Harbwr eto, rydym yn eich annog i gymryd cipolwg!
Yn y cyfamser, mae popeth sydd angen i chi ei wybod am fwyta ac yfed yn Abertawe, yn cynnwys manylion am oriau agor y tu allan i ddyddiau’r tymor, ar wefan y Brifysgol, ac i gael yr holl newyddion diweddaraf am fwyd dilynwch @swanseaunifood ar Instagram.
Gwaith Dymchwel y Gegin dros dro – Gwybodaeth Bwysig
O 12 Mehefin, bydd y gegin dros dro a leolir ar ochr ddwyreiniol Tŷ Fulton ar gau a bydd gwaith paratoi i’w dymchwel yn dechrau. Bydd y gwaith i ddymchwel yr uned yn digwydd ddydd Mercher 19 a dydd Iau 20 Mehefin, a bydd craen ar y safle. Bydd mynediad i’r ffordd sydd ar ochr ddwyreiniol Tŷ Fulton lle lleolir y gegin ar gau i gerbydau a cherddwyr, ac ni fydd modd defnyddio’r rheseli beiciau – bydd rhwystrau yn eu lle a bydd y Gwasanaethau Diogelwch ar ddyletswydd yn yr ardal i sicrhau diogelwch defnyddwyr y campws. Ni fydd modd parcio ychwaith yn y cilfannau gollwng y tu cefn i Dŷ Fulton yn ystod y cyfnod hwnnw. Sylwer, yn dilyn dymchwel y gegin, bydd y ffordd fynediad ar gau ar gyfer gwaith hanfodol dros y penwythnos, o ddydd Gwener 21 Mehefin. Bydd y ffordd yn ailagor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 24 Mehefin.
Bydd y ffordd at faes parcio Taliesin yn parhau ar agor, fodd bynnag gall fod cyfnodau byr pan na fydd mynediad iddi.