Mae’n bwysig ein bod yn eich hysbysu o 1 Gorffennaf na fydd y Gwasanaeth Tân ynymateb i alwadau sy’n deillio o systemau Larwm Tân Awtomatig. Bydd hyn yn effeithio ar yr holl safleoedd ar y campws, oni bai am ein hadeiladau preswyl – bydd y frigâd dân yn parhau i ymateb i alwadau o’r Neuaddau Preswyl fel yr arfer. Bydd ein Tîm Gwasanaethau Diogelwch yn derbyn yr holl hysbysiadau o adeiladau nad ydynt yn rhai preswyl.
Gallwch gael ragor o wybodaetham y newidiadau hyn ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Sut bydd hyn yn effeithio ar Fyfyrwyr ar y Campws?
Os bydd larwm tân yn canu, mae eich blaenoriaeth yn parhau’r un peth: i adael yr adeilad.
Os ydych yn gweld neu’n amau tân posib:
- Codwch y larwm drwy ganu’r larwm tân
- Gadewch yr adeilad drwy’r allanfa agosaf
- Cysylltwch â’r Gwasanaeth Tân yn defnyddio’r ap SafeZone neu drwy alw 999
- Hysbyswch y Tîm Diogelwch o’r sefyllfa pan fyddant yn cyrraedd i ymchwilio
Os oes gennych gwestiynau am y newidiadau neu ddiogelwch tân yn gyffredinol, cysylltwch â ni.
Diolch am eich cydweithrediad.
Y Tîm Iechyd a Diogelwch