Mae eich llyfrgell yn falch o gyhoeddi y bydd gwaith adnewyddu pwysig yn cael ei gynnal yn Adain y De Llyfrgell y Bae yr haf hwn! O fis Mehefin i fis Awst, bydd ein tîm yn gweithio’n galed i greu amgylchedd astudio mwy cyfforddus a hyblyg ar sail eich adborth fel myfyrwyr.
Beth gallwch ei ddisgwyl:
- Symud llyfrau a chyfnodolion: Mae’r holl ddeunyddiau o Adain y De’n cael eu symud i Neuadd Ganolog Llyfrgell y Bae ar hyn o bryd. Mae timau ein llyfrgell wedi amcangyfrif y bydd yr holl eitemau’n ffitio ar y silffoedd sydd eisoes yn y Neuadd Ganolog, heb orfod lleihau neu gael gwared ar unrhyw ran o’n casgliadau.
- Mannau astudio newydd a gwell: Gallwch chi edrych ymlaen at ddyluniad modern newydd gyda seddi cyfforddus, mannau astudio amgaeëdig ar gyfer gweithio’n dawel a mannau astudio i grwpiau.
- Ymarfer cynaliadwy: Bydd yr holl gelfi yn Adain y De na fydd eu hangen mwyach yn cael eu symud a’u defnyddio mewn mannau eraill o’r llyfrgell lle bo modd. Yn achos eitemau na ellir eu hailddefnyddio, mae’r llyfrgell yn ystyried rhoi’r rhain i ysgolion lleol.
Cynllun enghreifftiol o’r gwaith adnewyddu – cipolwg cyntaf!
Er yr ymdrechwn i fod yn dawel a tharfu cyn lleied â phosib, gellir cyfyngu ar fynediad i Ystafell y Myfyrwyr Ôl-raddedig ac Ystafell Gyfrifiaduron 2 Adain y De ar adegau. Byddwn yn cyfleu hyn i chi pan fydd hyn yn berthnasol.
Dilynwch sianelau cyfryngau cymdeithasol ein llyfrgell (@llyfrpriftawe) i gael yr wybodaeth ddiweddaraf – rydym yn gyffrous i rannu lluniau cyn ac ar ôl i’r lle gael ei drawsnewid!
Diolch am eich cydweithrediad wrth i ni weithio i wella eich mannau astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.