Rydych bellach yn gallu archebu dau docyn ychwanegol i westeion am ddim a phrynu tocynnau ychwanegol! Y dyddiad cau ar gyfer archebu eich tocynnau yw dydd Gwener 12 Gorffennaf, ac yn ystod yr amser hwn, gallwch newid unrhyw archebion neu gael ad-daliad os nad oes angen y tocynnau arnoch mwyach.
Ar ôl dydd Gwener 12 Gorffennaf, ni fyddwch yn gallu archebu tocynnau na newid archebion. Gofynnwn yn garedig i chi flaenoriaethu archebu eich tocynnau yn awr er mwyn osgoi siom.
Sut rwyf yn archebu fy nhocynnau graddio i westeion?
Os ydych eisoes wedi archebu eich gynau drwy ein partneriaid swyddogol Ede and Ravenscroft (ac wedi creu cyfrif gyda nhw), gwyliwch y canllaw cam wrth gam byr hwn cyn symud ymlaen.
Mae tocynnau gwesteion ychwanegol ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. A wnewch chi brynu eich tocynnau ychwanegol i westeion gyda’ch dau docyn am ddim. Bydd nifer y tocynnau ychwanegol i westeion yn cael ei gyfyngu i nifer penodol fesul myfyriwr. Bydd uchafswm y tocynnau ychwanegol fesul myfyriwr yn amlwg wrth brynu eich tocynnau.
E-docynnau
Unwaith rydych chi wedi archebu eich tocynnau’n llwyddiannus, bydd eich e-docynnau’n cael eu e-bostio atoch ddydd Llun 15 Gorffennaf gan Ede & Ravenscroft. Ni fyddwch yn cael tocynnau papur.
Os nad ydych chi wedi archebu eich gynau eto, gwnewch hynny ar unwaith. Y dyddiad cau yw dydd Mercher 10 Gorffennaf. Gallwch archebu eich gynau a’ch tocynnau ar yr un pryd. Rhaid i’r holl fyfyrwyr sy’n graddio wisgo gwisg academaidd.
Oes gennyt gwestiwn neu ymholiad? Edrycha ar ein tudalennau gwe i gael rhagor o wybodaeth neu gelli di gysylltu â’n tîm graddio.