Sylwer fel rhan o’r Prosiect Adnewyddu’r Rhwydwaith, mae angen i ni newid rhai o switshis y rhwydwaith mewn cabinetau data cyfathrebu ar draws y Brifysgol.

Trefnwyd cynnal y gwaith i newid switshis y rhwydwaith ar gyfer Adeilad Haldane ddydd Mercher 17eg Gorffennaf ac ar gyfer Adeilad Richard Price ddydd Gwener 19eg Gorffennaf. Bydd y gwaith yn cymryd tua diwrnod yr un i’w cwblhau.

Sylwer o ganlyniad i’r gwaith hanfodol hwn, ni fydd rhwydwaith a chysylltiad wi-fi yn Adeilad Haldane rhwng 7am a 5pm ddydd Mercher 17 Gorffennaf nac yn Adeilad Richard Price rhwng 7:00 am tan 17:00 ddydd Gwener 19eg Gorffennaf.

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.

Tîm Sylfeini Digidol