Cyn y cyfnod asesu atodol sydd ar ddod, hoffem achub ar y cyfle hwn i roi gwybodaeth asesu bwysig i chi sy’n ymwneud â chyhoeddi eich canlyniadau, ein Polisi Amgylchiadau Esgusodol ac Apeliadau Academaidd.

Cyhoeddi Eich Canlyniadau

Caiff eich canlyniadau eu cyhoeddi drwy eich cyfrif myfyriwr ar y fewnrwyd. Ni ellir datgelu canlyniadau dros y ffôn neu drwy e-bost. Cyhoeddir canlyniadau ar-lein ar eich cyfrif mewnrwyd myfyriwr ar 12 Medi 2024 o 10am.

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn ymddangos ar y sgrîn ‘Modiwlau 2023’;

  • eich modiwlau a’r marciau a enillwyd,
  • y penderfyniad ynghylch eich dyfarniad a gwybodaeth bellach.

Sylwer, bydd dyddiadau rhai rhaglenni’n wahanol i’r dyddiadau uchod, gan gynnwys rhai rhaglenni yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Gofynnir i fyfyrwyr sy’n dilyn y rhaglenni hyn gysylltu â’u Hysgol/Cyfadran am wybodaeth bellach ynghylch dyddiadau cyhoeddi eu canlyniadau.

Os ydych chi’n profi unrhyw anhawster wrth fewngofnodi i’ch cyfrif ar fewnrwyd y myfyrwyr, cysylltwch â Desg Gwasanaeth TG.

 

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich canlyniadau/penderfyniad academaidd, cysylltwch â’ch Ysgol/Cyfadran. Os credwch fod unrhyw farciau yn anghywir, cewch ymholi ynghylch hyn.

Apeliadau Academaidd

Os ydych am apelio yn erbyn eich penderfyniad, mae canllawiau llym i’w dilyn. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y Weithdrefn Apeliadau Academaidd ar gael.

 

Amgylchiadau Esgusodol

Os oes gennych chi amgylchiadau esgusodol rydych chi’n ystyried eu bod yn effeithio ar eich perfformiad academaidd, (cyflwyno gwaith cwrs a/neu asesiadau) dylech chi gysylltu â’ch Ysgol/Cyfadran ar frys.

Os nad ydych yn gallu sefyll asesiad (a ohiriwyd neu’n atodol) yn ystod cyfnod asesu mis Awst, ni fyddwch yn gallu gohirio’r asesiad. Sylwer, fodd bynnag, y byddai’n fanteisiol i chi hysbysu’ch Ysgol/Cyfadran am eich amgylchiadau esgusodol cyn gynted â phosib o hyd, cyn pob asesiad y byddai’r amgylchiadau esgusodol yn effeithio arno neu o fewn 5 niwrnod gwaith iddo gael ei gynnal gan y gellir cyflwyno’r wybodaeth hon i’r Bwrdd Arholi ym mis Medi. Bydd eich Ysgol/Cyfadran yn darparu ffurflen ddatgan i chi ei chwblhau a’i dychwelyd i’r Ysgol/Cyfadran erbyn y dyddiad a nodir.

Ni fyddwch yn derbyn canlyniad yn syth ar ôl i chi gyflwyno ffurflen ddatgan, y Bwrdd Arholi fydd yn penderfynu ar eich cynnydd/dyfarniad ym mis Medi, ar ôl iddo ystyried eich amgylchiadau esgusodol ac yn unol â’ch perfformiad academaidd cyffredinol.

Gallwch gyrchu’r Polisi Amgylchiadau Esgusodol a’r Cwestiynau Cyffredin yma.

 

Trawsgrifiadau Academaidd

Gallwch gyrchu eich Trawsgrifiad Academaidd swyddogol drwy eich cyfrif myfyriwr ar y fewnrwyd, mae’r botwm ‘Trawsgrifiad’ o dan y tab ‘Manylion y Cwrs’ ar yr ochr dde.

Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau hefyd yn gallu canfod eu trawsgrifiad ar eu cyfrif Gradintel a’u Hadroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR).

Gallwch weld/weithredu eich cyfrif Gradintel drwy eich Cyfrif MyUni, os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch ag aelod o’r tîm a fydd yn gallu eich helpu chi.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Dylai’r holl fyfyrwyr sydd â fisa drwy’r Llwybr Myfyrwyr (neu Haen 4) fynd i’r dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am fewnfudo ar ôl derbyn canlyniadau. Bydd hyn yn helpu i esbonio unrhyw oblygiadau o ran fisa a/neu weithgarwch cysylltiedig y gall fod ei angen (gan gynnwys drwy’r Llwybr Graddedigion).

Gweler hefyd y dudalen we sy’n rhoi gwybodaeth am Lwybr Graddedigion y DU i gael arweiniad ychwanegol ar amseriadau, cymhwysedd a’r broses cyflwyno cais am fisa.

Ni ellir datgelu canlyniadau dros y ffôn neu drwy e-bost.