Gall y rhan fwyaf o’r gwastraff rydych yn ei gynhyrchu gartref gael ei ailgylchu yn y sach neu fin cywir. Yn Abertawe, caiff casgliadau eu rhannu’n wythnosau pinc a gwyrdd gyda sachau a deunyddiau gwahanol yn cael eu casglu bob pythefnos. Cesglir gwastraff bwyd bob wythnos.
Mae’n bwysig eich bod yn ymgyfarwyddo â’r gwasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd i reoli eich gwastraff yn effeithiol a sicrhau ei fod yn cael ei gasglu heb drafferthion. Os byddwch yn didoli eich gwastraff yn anghywir neu’n gosod eitemau allan ar y diwrnodau neu wythnosau anghywir, ni fydd y sachau’n cael eu casglu a gallech dderbyn hysbysiad cosb benodedig.
Bydd tîm ailgylchu’r cyngor yn dosbarthu pecynnau gwybodaeth ac amserlenni casglu i aelwydydd myfyrwyr cofrestredig ar ddechrau’r tymor. Mae’r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch am gasgliadau gwastraff ac ailgylchu hefyd ar gael yn www.swansea.gov.uk/getitsorted