Cyhoeddi Eich Canlyniadau

Caiff eich canlyniadau eu cyhoeddi drwy eich cyfrif myfyriwr ar y fewnrwyd. Ni ellir datgelu canlyniadau dros y ffôn neu drwy e-bost. Cyhoeddir canlyniadau ar-lein ar eich cyfrif mewnrwyd myfyriwr ar 12 Medi 2024 o 10am.

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn ymddangos ar y sgrîn ‘Modiwlau 2023’;

  • eich modiwlau a’r marciau a enillwyd,
  • y penderfyniad ynghylch eich dyfarniad a gwybodaeth bellach.

Sylwer, bydd dyddiadau rhai rhaglenni’n wahanol i’r dyddiadau uchod, gan gynnwys rhai rhaglenni yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Gofynnir i fyfyrwyr sy’n dilyn y rhaglenni hyn gysylltu â’u Hysgol/Cyfadran am wybodaeth bellach ynghylch dyddiadau cyhoeddi eu canlyniadau.

Os ydych chi’n profi unrhyw anhawster wrth fewngofnodi i’ch cyfrif ar fewnrwyd y myfyrwyr, cysylltwch â Desg Gwasanaeth TG.

 

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich canlyniadau/penderfyniad academaidd, cysylltwch â’ch Ysgol/Cyfadran. Os credwch fod unrhyw farciau yn anghywir, cewch ymholi ynghylch hyn.

Apeliadau Academaidd

Os ydych am apelio yn erbyn eich penderfyniad, mae canllawiau llym i’w dilyn. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y Weithdrefn Apeliadau Academaidd ar gael.

 

Trawsgrifiadau Academaidd

Gallwch gyrchu eich Trawsgrifiad Academaidd swyddogol drwy eich cyfrif myfyriwr ar y fewnrwyd, mae’r botwm ‘Trawsgrifiad’ o dan y tab ‘Manylion y Cwrs’ ar yr ochr dde.

Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau hefyd yn gallu canfod eu trawsgrifiad ar eu cyfrif Gradintel a’u Hadroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR).

Gallwch weld/weithredu eich cyfrif Gradintel drwy eich Cyfrif MyUni, os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch ag aelod o’r tîm a fydd yn gallu eich helpu chi.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Dylai’r holl fyfyrwyr sydd â fisa drwy’r Llwybr Myfyrwyr (neu Haen 4) fynd i’r dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am fewnfudo ar ôl derbyn canlyniadau. Bydd hyn yn helpu i esbonio unrhyw oblygiadau o ran fisa a/neu weithgarwch cysylltiedig y gall fod ei angen (gan gynnwys drwy’r Llwybr Graddedigion).

Gweler hefyd y dudalen we sy’n rhoi gwybodaeth am Lwybr Graddedigion y DU i gael arweiniad ychwanegol ar amseriadau, cymhwysedd a’r broses cyflwyno cais am fisa.

Ni ellir datgelu canlyniadau dros y ffôn neu drwy e-bost.